Ym maes cyfrifiadureg, mae data cysylltiedig (Saesneg: linked data, yn aml yn cael ei ysgrifennu â phrif lythrennau) yn ddull o gyhoeddi data strwythuredig fel y gellir ei gysylltu a'i wneud yn fwy defnyddiol trwy ymholiadau semantaidd.
Mae'n adeiladu ar safonau technolegau'r We fel HTTP, RDF a URIs, ond yn hytrach na'u defnyddio i weini tudalennau gwe i ddarllenwyr dynol yn unig, mae'n eu hymestyn i rannu gwybodaeth mewn ffordd y gellir ei ddarllen yn awtomatig gan gyfrifiaduron. Rhan o weledigaeth data cysylltiedig yw bod y rhyngrwyd yn dod yn gronfa ddata byd-eang.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | structured data, cronfa ddata ar-lein |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tim Berners-Lee, cyfarwyddwr Consortiwm y We Fyd-eang (W3C), wnaeth fathu'r term yn 2006, a hynny mewn nodyn dylunio am brosiect y We Semantaidd.
Gall data cysylltiedig hefyd fod yn ddata agored, fel arfer yn cael ei ddisgrifio fel data agored cysylltiedig (Saesneg: linked open data).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Data cysylltiedig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.