Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Conwy.
(Fe'i hadwaenir yn draddodiadol yn Saesneg fel Conway.) Roedd cynt yng Ngwynedd a Sir Gaernarfon cyn hynny. Mae'n enwog fel tref gaerog, am ei chastell, ac am y pontydd ar draws Afon Conwy. Mae ganddi boblogaeth o tua 14,208, sydd hefyd yn cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gogledd Cymru.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 14,723 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Conwy |
Cyfesurynnau | 53.28°N 3.83°W |
Cod SYG | W04000902 |
Cod OS | SH775775 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
Saif y dref ar lan orllewinol Afon Conwy, gan wynebu Deganwy, sydd ar ochr arall yr afon.
Codwyd y castell a'r waliau gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Fe'u gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd. Yma hefyd y safai Mynachdy Aberconwy, a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr.
Ers dros 700 mlynedd, cynhelir Ffair Fêl Conwy ar strydoedd y dref ar 15 Medi bob blwyddyn.
Mae gan Conwy orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer.
Rhed nifer o wasanaethau bysiau rhwng Conwy a threfi a phentrefi Dyffryn Conwy ac ardaloedd eraill. Mae ar brif lwybr bws arfordir Gogledd Cymru yn ogystal.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Conwy (tref), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.