Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha).
Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y Dydd Gwener cyn hynny.
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.
Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad â'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd. Sonir mewn ysgrifen yn gyntaf am y traddodiad hwn yn llyfr Georg Franck von Franckenau, De ovis paschalibus (Ynghylch Wyau Pasg) yn 1682 sy'n crybwyll hen draddodiad o Alsace am yr ysgyfarnog yn dod â wyau Pasg i'r plant. Diddorol hefyd ydy cysylltiad Santes Melangell gyda'r sgwarnog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pasg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.