Yn wahanol i'r cwningen, mae'r sgwarnog yn byw ar wyneb y tir yn hytrach nac o dan y ddaear mewn ffau. Maent yn byw naill ai ar ben eu hunain neu mewn parau. Gellir eu bwyta, er nad oes llawer o saim yn eu cig ac fel arfer cânt eu rhostio.
Ceir cyfeiriadau niferus mewn chwedlau, e.e. yn Chwedl Taliesin trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog i ddianc rhag Ceridwen, a chafodd ysgyfarnog loches rhag yr helfa ym mhlygion gwisg Melangell. Cofnododd Gerallt Gymro, yn 1188, y goel y gallasai gwrach droi'n ysgyfarnog i ddwyn llaeth y gwartheg a cheir amryw fersiwn leol ohoni o'r 19g. Dehonglid y modd y rhedai ysgyfarnog i olygu lwc, anlwc, rhybudd neu farwolaeth ac o'i gweld dylsai gwraig feichiog orchuddio ei cheg rhag i'w phlentyn gael ei eni â thaflod y geg yn hollt.
Arferid ei hela â milgwn neu ei dal mewn “rhwyd gae” i wneud stiw (neu gawl) blasus. Enwau eraill arni yw: ceinach, pry. Cyfeirir at 'hela'r pry' yn y gân werin “Bonheddwr Mawr o'r Bala”.
Cyflwynwyd yr ysgyfarnog fynydd (L.timidus) o'r Alban i ucheldiroedd Eryri a'r Canolbarth yn yr 19g. Mae'n ddigon posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y Carneddau hyd heddiw.
Dyma hanesyn bach gan Wil Williams wedi ei ysgrifennu mewn iaith byw a llafar Sir Fôn tua 2010:
“Cerddad oeddwn i ar hyd llwybr cyhoeddus yn ardal Bodorgan ‘ma pan welais i sgwarnog yn isda ar ei din ar y cae – golygfa nid anamal yn y cae arbennig yma. Pen dim dyma ‘na sgwarnog arall yn rhedag ati, a dyma’r ddwy’n dechra rhedag ar ôl eu gilydd yn igam ogam nes iddy nhw fynd o’r golwg dros a thu ôl i glawdd pridd isal. Es yn fy mlaen at y giat mochyn ac aros yno i sbio o’nghwmpas. Yn sydyn, sylwi bod un sgwarnog reit wrth fy ymyl – o fewn dwy neu dair llath i mi - yn symud, stopio, symud, stopio. Wedyn daeth reit at fy nrhaed - o’n i’n meddwl ei bod am fynd heibio fi, ond symyd i ffwrdd, yn rhadlon nath hi nes i mi golli ei gweld am iddi fynd i ganol llwyni o eithin. Toedd yna ddim tywysog yn ei hela a toedd ‘na ddim hogan ddel hefo sgert laes wrth fy ochr i chwaith! [Cyfeiriad at Felangell a Brochfael Ysgythrog]. Es led cae yn fy mlaen, bron at yr ail giat mochyn, sy’n arwain at y trydydd cae, lle dw i wedi gweld sgwarnogod yno o’r blaen hefyd. Gwrando oeddwn i ar delor yr hesg, troellwr bach (medru ei glwed o pan mae o’n canu’n weddol agos i mi) a bras y cyrs yn canu, a sbio ar ffau pry cop. Roedd y pry cop wedi medru plygu deilen gellesg fel stwffwl ben-ucha’n isa, a’i ffau fel cwt Nissan yn y plygiad. Myn dian i, sylweddoli bod y sgwarnog wrth fy yml i eto – o fewn llathan deu ddwy i mi! Symyd, stopio a wedyn symyd yn rhadlon oddi wrtha i i’r brwyn a’r tyfiant. Os gwn i pa mor aml mae hyn yn digwydd a faint arall sydd wedi cael yr un profiad? Ai ar ôl i rhywun gael profiad fel hyn y daeth chwedl Pennant Melangell i fodolaeth tybed?”
Llenyddiaeth
Cerdd eiconig R. Williams- Parry i’r sgwarnog. Tybir iddi gyfeirio at beilonnau sy’n croesi dyffryn Abergwyngregin (“rhwng Llanllechid a Llanrwst”) heibio’r “Waun” yn y cwm hwnnw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysgyfarnog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.