Osteoarthritis yw'r math mwyaf cyffredin o arthritis yn y DU; mae'n gyflwr sy'n effeithio ar y cymalau.
Mae niwed i'r cartilag (pad o feinwe gyswllt sy'n leinio'r cymalau) rhwng yr esgyrn yn peri i dyfiannau esgyrnog ddatblygu o gwmpas ymyl y cymalau. Mae hyn yn achosi llid y cymalau (synofitis). Y cymalau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio yw'r pengliniau, cluniau a chymalau bach y dwylo, ond gall unrhyw gymalau gael eu heffeithio. Fel rheol mae'n datblygu mewn unigolion dros 50 oed ac mae'n fwy cyffredin mewn menywod. Gall effeithio ar unigolion iau o ganlyniad i anaf neu gyflwr cymalau. Mae'r risg o gael yr anhwylder yn cynyddu ble mae'r dull o fyw (e.e. gwaith neu weithgaredd chwaraeon) wedi rhoi straen ar y cymalau dros gyfnodau hir. Nid oes iachâd i osteoarthritis ond gellir lleddfu'r symptomau drwy ymarfer ysgafn, esgidiau addas, ffisiotherapi neu lawdriniaeth.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd yr esgyrn, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | Gwynegon, degenerative disorder of musculoskeletal system, clefyd |
Symptomau | Gwynegon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Osteoarthritis, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.