Iaith Iddewig sydd yn tarddu o'r Hen Sbaeneg yw Iddew-Sbaeneg (Iddew-Sbaeneg: גֿודיאו-איספאנייול ; Sbaeneg: judeoespañol), a elwir hefyd yn Ladino neu Judezmo.
Iaith Romáwns a ysgrifennir yn yr wyddor Hebraeg ydyw, gyda chryn dylanwad gan y Hebraeg a'r Aramaeg.
Datblygodd yr Iddew-Sbaeneg yn Sbaen yn y 14g a'r 15g, fel tafodiaith yr Iddewon Seffardig ar yr Hen Sbaeneg gyda nifer o eiriau Hebraeg. Yn sgil alltudiaeth yr Iddewon o Sbaen yn 1492, dylanwadwyd arni gan yr ieithoedd yn y gwledydd a ymsefydlasant yr Iddewon ynddynt, yn enwedig Arabeg, Tyrceg, Groeg, Ffrangeg, Portiwgaleg, ac Eidaleg. Mae'r enw Ladino yn cyfeirio at wreiddiau Lladin yr iaith. Cafodd y Beibl Hebraeg ei gyfieithu i'r Iddew-Sbaeneg yn y 1740au a'i gyhoeddi dan olygyddiaeth Abraham Assa yng Nghaergystennin.
Cafodd y mwyafrif o gymunedau Iddew-Sbaeneg y Balcanau eu difa gan y Natsïaid yn ystod yr Holocost. Amcangyfrifir bod 80,000–200,000 o Iddewon yn siarad yr iaith yn yr 21g, y mwyafrif ohonynt yn hen ac yn byw yn Israel. Gan nad ydynt yn magu eu plant yn yr iaith, mae'r Iddew-Sbaeneg, fel yr Iddew-Almaeneg, mewn perygl o farw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iddew-Sbaeneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.