Awdur, actor, cyfarwyddwr theatrig a cherdd o Gymro yw Cefin Roberts (ganwyd 28 Hydref 1953).
Cefin Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 28 Hydref 1953 Llanllyfni |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cerddor, cyfarwyddwr |
Magwyd Cefin yn Llanllyfni, Dyffryn Nantlle ac yn byw ym Mangor. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.
Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd "Hapnod" gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au.
Sefydlodd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ym Mharc Menai, Bangor, yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Ymunodd â chriw cynhyrchu Rownd a Rownd yn 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama yn 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid. Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010.
Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau am ei nofel Brwydr y Bradwr.
Mae'n briod â Rhian Roberts ac mae'n dad i Mirain Haf a Tirion Anarawd. Mae Mirain hefyd yn actores a chantores nodedig a cyhoeddwyd llyfr ffeithiol Cefin Roberts a Mirain Haf am y tad a'r ferch yn 2004.
Teitl | Blwyddyn | Gwasg | Nodiadau |
---|---|---|---|
Brwydr y Bradwr | 2003 | Gwasg Gwynedd | |
Cymer y Seren | 2009 | Gwasg Gwynedd | |
Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011 | 2011 | Gwasg Carreg Gwalch | Hanes Ysgol Glanaethwy, yng ngyfres 'Syniad Da' |
Cofion, Cefin | 2012 | Gwasg y Bwthyn | |
Sgin Ti Fonolog | 2018 | Gwasg y Bwthyn | |
Os na ddon nhw | 2019 | Lolfa | Nofel |
Nadolig Pwy a Wyr 2 | 2019 | Gwasg y Bwthyn | Amlgyfrannog |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cefin Roberts, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.