Llanllyfni

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanllyfni ( ynganiad ).

Saif yn Nyffryn Nantlle ychydig i'r de o Ben-y-groes, Erbyn hyn mae Pen-y-groes a Llanllyfni bron yn cyffwrdd ei gilydd, gydag Afon Llyfni yn eu gwahanu. Hyd yn ddiweddar roedd y briffordd A487 rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn rhedeg trwy ganol y pentref, ond yn awr mae ffordd osgoi newydd wedi lleihau'r drafnidiaeth.

Llanllyfni
Llanllyfni
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.045°N 4.282°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000083 Edit this on Wikidata
Cod OSSH475515 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Yr adeilad mwyaf diddorol yn y pentref yw Eglwys Sant Rhedyw. Dywedir i'r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu yn y 4g. Mae traddodiad i Rhedyw (Lladin Redicus) gael ei eni yn Arfon a dod yn swyddog pwysig yn eglwys Augustodunum (Autun heddiw) yng Ngâl. Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynheli Gŵyl Rhedyw yn Llanllyfni bob blwyddyn.

Enwogion

Ymysg enwogion Llanllyfni a'r cylch mae Robert Roberts (Silyn), bardd ac arloeswr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Mathonwy Hughes, bardd a newyddiadurwr, nai Silyn, ac R. Alun Roberts, ysgolhaig ac arbenigwr ar dyfu gweiriau a bridio anifeiliaid. Claddwyd y Parchedig John Jones, Talysarn ym mynwent yr eglwys.

Yn fwy diweddar, mae enwogion fel Cefin Roberts, sefydlwr yr ysgol berfformio 'Glanaethwy', a Bryn Fôn, y canwr ac actor enwog yn dod o Lanllyfni; a mynychodd Bryn Terfel, y canwr opera byd-enwog, Ysgol Gynradd Llanllyfni cyn mynd ymlaen i Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanllyfni (pob oed) (4,135)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllyfni) (3,156)
  
79.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllyfni) (3196)
  
77.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanllyfni) (758)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Llanllyfni EnwogionLlanllyfni Cyfrifiad 2011Llanllyfni CyfeiriadauLlanllyfni Dolen allanolLlanllyfniA487Afon LlyfniCaernarfonCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanllyfni.oggDyffryn NantlleGwyneddLlanllyfni.oggPen-y-groesPorthmadogWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Kurralla Rajyam6 Awst2016TrydanRobert CroftSeiri RhyddionJohn PrescottBreaking AwayCobaltLlywelyn ap GruffuddOrbital atomigAdolygiad llenyddolFfilm arswydHenry AllinghamAil Frwydr YpresLos AngelesElectrolytAfon Cleddau8 TachweddDiwydiantAnime5 AwstHaiku2018Gemau Olympaidd yr Haf 202027 HydrefCodiadPengwinRoyal Shakespeare CompanyBricyllwyddenThe Wiggles MovieThe Salton SeaTongaFfilm gyffroGorilaAlotropRoy AcuffGramadeg Lingua Franca NovaCwmni India'r DwyrainY TalibanLe Conseguenze Dell'amoreGwyddoniaeth gymhwysolBaner yr Unol DaleithiauNeroWicipedia Cymraeg1682Outlaw KingBen EltonThe Terry Fox StoryIesu3 Hydref1897AlaskaFideo ar alw2002Ibn Sahl o SevillaMaelströmAlexandria RileyGwainClorinEfrog Newydd6 IonawrAncien RégimeLerpwlSpynjBob PantsgwârAnimeiddioMinskSystem of a DownFflorida5 HydrefBlood FestSafleoedd rhyw🡆 More