Cantores canu gwlad a ffermwraig yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953).
Doreen Lewis | |
---|---|
Ganwyd | Doreen Davies 4 Ebrill 1953 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor, ffermwr |
Plant | Caryl Lewis |
Ganwyd Doreen Davies yn Aberystwyth ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Felinfach ac yna yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Yn 1969, rhyddhaodd Doreen ei record gyntaf Y Storm ar label Cambrian, â hithau ond yn 16 oed. Bu hyn yn ddechrau ar yrfa ddisglair i'r ferch ifanc o Abermeurig.
Daeth yn enw a gwyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau a sgriniau teledu led led Cymru. Aeth ei gyrfa o nerth i nerth gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, a chaneuon cofiadwy fel “Nans o’r Glyn”, “Rhowch i mi Ganu Gwlad”, “Cae’r Blode Menyn” a “Y Gwr Drwg”.
Hi yw'r unig ferch yn hanes canu pop Cymraeg i'w chyflwyno â disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.
Mae Doreen wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thramor yn canu am yn agos i 40 mlynedd – ac mae’n dal i fwynhau’r cyfansoddi a’r perfformio, os yw amser yn caniatau iddi ynghanol bwrlwm adref ar y fferm yng Ngheredigion.
Priododd ei gŵr John yn Eglwys Ystrad Aeron yn mis Mai 1972. Ar ôl priodi symudodd y pâr i fyw i Sgwâr Alban yn Aberaeron. Yno fe magwyd eu plant, Gwyndaf a Caryl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Doreen Lewis, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.