Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronau i oedolion ac i blant oedd Owen Morgan Edwards (26 Rhagfyr 1858 – 15 Mai 1920).
Owen Morgan Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1858 Llanuwchllyn |
Bu farw | 15 Mai 1920 Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, awdur ffeithiol, ysgrifennwr, ieithydd, academydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cysylltir gyda | Llanuwchllyn |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Plant | Ifan ab Owen Edwards |
Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng Nghoed-y-pry, Llanuwchllyn, yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth. Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu Ysgol Ramadeg y Bala, ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.
Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (1889–1891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler Cymru Fydd). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891–1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "Cymru Coch", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.
Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol a daeth yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1899, yn dilyn marwolaeth Thomas Edward Ellis ym mis Ebrill 1899. Ni fwynhaodd fywyd y senedd ac felly ni ymgeisiodd i gael ei ail-ethol ym 1900.
Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.
Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.
Gwnaethpwyd yn Farchog ym 1916 a gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru ym 1918. Bu farw ei wraig ym 1919, a bu farw yntau yn Llanuwchllyn ym 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen Edwards ymlaen i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Enwyd Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ar ei ôl er mwyn ei anrhydeddu.
Coed-y-pry, Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edwards a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd. Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn lletywr yn Meyrick House, Dolgellau, rhestrwyd ei alwedigaeth fel Minister Calvinistic Methodist Body. Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng Nghoedypry, rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy. Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny. Roedd Edwards yn byw ym Mryn-yr-aber, Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel Fellow of College & Lecturer.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Llyfrau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Edward Ellis | Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1899 – 1900 | Olynydd: Osmond Williams |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Owen Morgan Edwards, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.