Nofelydd a beiriniad Ffrengig oedd Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust (10 Gorffennaf 1871 – 18 Tachwedd 1922).
Mae'n fwyaf adnabyddus am À la recherche du temps perdu ("Chwilio am amseroedd coll"), a gyhoeddodd mewn saith rhan rhwng 1913 a 1927.
Marcel Proust | |
---|---|
Ganwyd | Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust 10 Gorffennaf 1871 16ain bwrdeistref o Baris |
Bu farw | 18 Tachwedd 1922 o niwmonia 16ain bwrdeistref o Baris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, bardd, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | À l'ombre des jeunes filles en fleurs, In Search of Lost Time, Jean Santeuil |
Arddull | novel sequence, traethawd, pastiche |
Tad | Adrien Proust |
Mam | Jeanne-Clémence Proust |
Gwobr/au | Gwobr Goncourt, Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Ganed Proust yn Auteuil, rhan o ddinas Paris. Roedd ei dad, Achille Adrien Proust, yn batholegydd amlwg, yn gweithio ar achosion colera a sut i'w atal. Nid oedd ei iechyd yn dda pan oedd yn blentyn, ond treuliodd flwyddyn yn y fyddin yn (1889-90). Cyhoeddodd Du côté de chez Swann, rhan gyntaf À la recherche du temps perdu, yn 1913.
Bu farw yn 1922, a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis.
Cyfrol | Teitl Ffrangeg | Cyhoeddwyd | Cyfieithiad |
---|---|---|---|
1 | Du côté de chez Swann | 1913 | Y ffordd ger tŷ Swann |
2 | À l'ombre des jeunes filles en fleurs | 1919 | Yng nghysgod merched ieuanc yn blodeuo |
3 | Le Côté de Guermantes (dwy gyfrol) | 1920/21 | Ffordd Guermantes |
4 | Sodome et Gomorrhe (dwy gyfrol) | 1921/22 | Sodom a Gomorrah |
5 | La Prisonnière | 1923 | Y Carcharor |
6 | La Fugitive Albertine disparue | 1925 | Y Ffoadur Albertine wedi diflannu |
7 | Le Temps retrouvé | 1927 | Ail-ddarganfod yr amser |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Marcel Proust, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.