Dirwasgiad Mawr 2008-2012

Yn ystod 2008–2011 fe ddirywiodd economi'r byd i lefelau nas gwelwyd erioed cyn hynny.

Yn ystod yr amser yma, a elwir yn argyfwng economaidd 2008-presennol (Saesneg: The Great Recession), cafwyd gostyngiad sylweddol mewn prisiau tai ac eiddo, gostyngiad ym marchnadoedd stoc y byd a nifer o fanciau yn mynd i'r wal. Un o'r mesurau a gymerwyd yng ngwledydd y Gorllewin i geisio atal yr argyfwng oedd lliniaru meintiol.

Dirwasgiad Mawr 2008-2012
Enghraifft o'r canlynoldirwasgiad Edit this on Wikidata
Dyddiad2000s, 2010s Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dirwasgiad Mawr 2008-2012
     Gwledydd mewn dirwasgiad swyddogol (am ddau chwarter ar ôl ei gilydd)      Gwledydd mewn dirwasgiad answyddogol (un chwarter)      Gwledydd gyda dirywiad o 1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.5% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd gyda dirywiad o 0.1% neu fwy yn eu heconomi      Gwledydd lle mae eu heconomi'n tyfu      N/A Rhwng 2007 a 2008, fel amcangyfrifon gan yr IMF (International Monetary Fund)
Dirwasgiad Mawr 2008-2012
Twf GDP gwledydd y Byd, 2009; mae'r gwledydd mewn brown mewn dirwasgiad.

Caiff economi gwlad ei alw'n "argyfwng economaidd" pan fo gwlad mewn dyled neu ddiffyg o ran ei GDP am ddau chwarter ar ôl ei gilydd. Parodd yr argyfwng, yn ôl y diffiniad hwn rhwng Q4-2011 hyd at Q2-2012 (9 mis).

Ar ddechrau'r argyfwng cafwyd sawl cyhoeddiad negyddol am system forgais Unol Daleithiau America; deilliodd yr argyfwng o'r hyn a elwid yn 'fenthyg tocsig', sef trachwant cwmniau i wneud elw ac i roi morgeisi i bobl nad oeddent yn medru fforddio ei dalu'n ôl. Ymledodd yr argyfwng tai hwn a elwid yn Subprime mortgage crisis drwy'r byd. Dyma gychwyn y dirwasgiad byd-eang. Gwelwyd pris olew yn dyblu mewn ychydig fisoedd ychydig cyn hyn, ac yna yn ôl i tua $85 y gasgen yn Medi 2008. Gwelwyd hefyd diweithdra'n codi drwy'r byd a dyblodd rhwng Mehefin a Chwefror 2009 yng Ngwledydd Prydain - o 1 miliwn i tua dwy filiwn o bobol.

O ganol 2008 ymlaen cafwyd hefyd argyfwng global ceir a ddeilliodd (unwaith eto) yn America, ac yna yn Ewrop a Japan. Aeth pethau'n ddrwg iawn ar General Motors yn Ebrill a Mai 2009. Syrthiodd incwm cyfartalog teuluoedd UDA 35%: o $106,591 yn 2005 i $68,839 yn 2011.

Prisiau Uchel

Yn Ionawr 2008 pasiodd pris olew y garreg filltir bwysig honno o $100 y gasgen. Erbyn Gorffennaf roedd olew yn $147 y gasgen. Yr adeg hon hefyd, gwelwyd codiad sylweddol ym mhrisiau bwyd.

Dirwasgiad Mawr 2008-2012 
Pris olew Brent (mewn Doleri) rhwng 1987 a 2011.

Enghraifft arall o'r chwyddiant byd-eang hwn ydy Asid Swlffiwric - a oedd chwe gwaith ei bris arferol erbyn diwedd haf 2008.

Yr Argyfwng yn yr Unol Daleithiau

Cafwyd argyfwng yn y byd morgeisi yn yr Unol Daleithiau, o'r enw 'The Sub-prime Chrisis'; argyfwng a gychwynodd oherwydd trachwant llawer o gwmniau yn rhoi benthyciadau o dros 110% o bris yr eiddo, benthyciadau amheus eraill a phrynu-a-gwerthu morgeisi risg uchel. Collwyd llawer o'r gweithlu yn yr un cyfnod. O ganlyniad, aeth llawer o gwmniau i'r gwellt, gan gynnwys: 'Bear Stearns' a chwmni Lehman Brothers (Medi 2008). Cenedlaetholwyd y benthycwyr Fannie Mae a Freddie Mac gan iddynt fynd i drafferthion ariannol enbyd.

Aeth pethau'n fler hefyd ar sefyllfa arian yr Unol Daleithiau, gyda Merrill Lynch yn cael ei brynu gan Fanc America oherwydd i'r cwmni yswiriant bron a methu parhau. Plymiodd y gyfradd i lawr yn "Wall Street" ar Fedi 15 ac eto ar 10 Hydref 2008. Yn ystod y flwyddyn 2008 (hyd at Hydref) aeth 81 cwmni ariannol i'r wal yn yr Unol Daleithiau.

Ym Medi, gwnaed 'short selling' yn anghyfreithlon. Ychydig wedyn, cytunodd senedd y wlad i achub y banciau drwy roi rhwng 700 biliwn a thriliwn o ddoleri iddynt.

Yn Rhagfyr 2008, cyhoeddodd y 'National Bureau of Economic Research' fod yr Unol Daleithiau wedi bod mewn argyfwng economaidd ers Rhagfyr 2007, a chyhoeddodd sawl economegydd nad oedd golau dydd i'w weld yn nhwnnel du'r argyfwng, ac na fedrant broffwydo gwelliant yn yr economi tan o leiaf 2011. Dyma'r argyfwng economaidd gwaethaf ers yr hyn a elwid yn 'Great Depression' yn yr 1930au

Yr Argyfwng yn Ewrop

Dirwasgiad Mawr 2008-2012
Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.

Cyhoeddodd Denmarc ei bod mewn cyflwr o ddirwasgiad mor gynnar ag Ebrill 2008. Dilynwyd hi gan Estonia a Latfia.

Ar 6 Hydref 2008 dywedodd Geir Haarde, Prif Weinidog Gwlad yr Ia "the Icelandic economy, in the worst case, could be sucked with the banks into the whirlpool and the result could be national bankruptcy" a bod y llywodraeth yn chwilio am arian ychwanegol ar ffurf nawdd. Deuddydd yn ddiweddarach, cymerodd Llywodraeth Gwlad yr Iâ y banc Landsbanki o dan eu rheolaeth a ,'bailout' o £400m i fanc mwyaf y wlad, sef Kaupthing.

Aeth Icesave i'r wal, gydag oddeutu 4 biliwn o bunnoedd Sterling wedi'i fuddsoddi yn y banc gan oddeutu 600,000 o Brydeinwyr. Ar 8 Hydref 2008, cyhoeddodd Prif Weinidog Gwledydd Prydain Gordon Brown y byddai'n erlyn Gwlad yr Iâ mewn llys. Rhewyd asedau Landsbanki (mam-gwmni Icesave) gan Alistair Darling gan ddefnyddio cyfreithiau newydd 'atal terfysgaeth' i wneud hynny. Cafwyd ymateb ffyrnig gan drigolion Gwlad yr Iâ o'r ensyniad o'u galw'n 'derfysgwyr'.

Bu'n rhaid i lywodraethau nifer o wledydd yn Ewrop gynorthwyo gwledydd mewn trafferthion economaidd gan gynnwys Portiwgal, Iwerddon a Sbaen. Ymddiswyddodd prif weinidog yr Eidal oherwydd dyled difrifol y wlad a phenodwyd Mario Monti yn ei le. Arweiniodd Nicolas Sarkozy, Llywydd Ffrainc ac Angela Merkel, Canghellor yr Almaen y trafodaethau i atal yr Ewro rhag mynd i'r wal. Yn Rhagfyr 2011 daethant a nifer o gynigion gan gynnwys cytundeb newydd rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a fyddai'n eu cosbi pe baent yn peidio a gweinyddu rhai mesurau megis cwtogi ariannol, cynyddu treth a rheoli'r banciau.

Yr Argyfwng yng Ngwledydd Prydain

Dirwasgiad Mawr 2008-2012 
Cynffon o bobl yn ciwio y tu allan i Fanc Northern Rock ym Medi 2007 gyda'r nod o dynnu eu pres allan o'r banc. Dyma ragflas o'r hunllef economaidd a oedd i ddod flwyddyn yn ddiweddarach.
Dirwasgiad Mawr 2008-2012 
Prisiau tai yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd y gymdeithas adeiladu fwyaf, sef Nationwide, i brisiau tai Gorffennaf ostwng 8.1% o'r hyn oeddent flwyddyn ynghynt, gan rybuddio hefyd fod dirwasgiad economaidd yn wynebu Gwledydd Prydain. Yng Ngorffennaf, cafwyd lleihad o 1.7% ym mhrisiau tai.

Ar 23 Ionawr cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ("The Office of National Statistics") fod gwledydd Prydain yn swyddogol mewn dirwasgiad.

Diwydiant

Arafodd diwydiant hefyd, gyda chynnyrch ffatrioedd yn is nag y bu ers 1991.

Y gyfradd Llog

Disgynodd y gyfradd llog i lawr i 1.5% ar 8 Ionawr 2009: yr isaf yn ei hanes ers 300 o flynyddoedd. Yn Awst 2011, roedd y gyfradd yn 0.5%.

Diweithdra

Yn Awst 2008 roedd y nifer di-waith wedi codi i oddeutu 900,000. Ar 21 Ionawr cyhoeddodd y "Office of National Statistics" fod y nifer a oedd yn ddiwaith wedi codi i 1.92 miliwn, yr uchaf ers 11 mlynedd.

Banciau a chwmniau mewn trafferthion enbyd

Daeth y Llywodraeth i gynorthwyo'r banciau ddwywaith: yn gyntaf ar 8 Hydref 2008 am £500 biliwn ac yn ail ar 19 Ionawr 2009 am swm o £50 biliwn. Dyma rai o'r cerrig milltir:

Ar 6ed o Fawrth 2009, cymerodd y Llywodraeth gwmni bancio Lloyds Banking Group plc (Lloyds TSB) drosodd gan yswirio eu dyledion.

Aeth y cwmniau canlynol i'r wal neu i drafferth ariannol enbyd:

Dirwasgiad Mawr 2008-2012 
Nifer y cwmniau a aeth i'r wal rhwng 1960 a 2007
  • 12 Medi 2007: Northern Rock yn gofyn i'r llywodraeth am gymorth ariannol mawr.
  • 17 Chwefror 2008: y Canghellor Alistair Darling yn cyhoeddi y bydd Northern Rock yn cael ei genedlaetholi
  • 29 Medi 2008: Bradford and Bingley yn cael ei genedlaetholi, yn rhannol gyda chwmni Sbaenaidd Satander yn prynu'r gweddill
  • 5 Ionawr 2009: y cwmni crochenwaith Wedgwood
  • 6 Ionawr 2009: Cau siop olaf Woolworths
  • 20 Ionawr 2009: RBS mewn trafferthion; y llywodraeth am godi eu cyfranddaliadau yn y cwmni i 70%
  • 6 Mawrth 2009: y llywodraeth yn cymryd Lloyds Banking Group plc (Lloyds TSB) drosodd gan yswirio eu dyledion.
  • 1 Mehefin 2009: General Motors yn ffeilio'u hachos yn America; hyn hefyd yn effeithio is-gwmniau yng ngwledyd Prydain.
  • Mehefin 2010 Barcud Derwen: Cwmni adnoddau ôl-gynhyrchu yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd oedd Derwen ac roedd Barcud yn gwmni adnoddau teledu a sefydlwyd yn 1981 yng Nghaernarfon. Aethant i ddwylo'r Derbynnydd yn haf 2010.
Dirwasgiad Mawr 2008-2012 
Gydag arweinwyr yr 20 gwlad mwyaf yn ymgasglu yn Llundain cafwyd nifer o brotestiadau yn erbyn twyll ariannol a thros yr amgylchedd.

Gwledydd Eraill

  • Seland Newydd. Erbyn Hydref 2008 roedd 23 o gwmniau ariannol wedi ffeilio eu bont yn fethdalwyr. Ym Mehefin roedd y nifer o dai newydd 20% yn is na'r mis cynt; roedd y nifer o dai a werthwyd 42% yn is yn yr un mis.
  • Awstralia. Yn ôl yr IMF roedd sefyllfa Awstralia yn well na'r rhan fwyaf o wledydd yn yr hinsawdd. Datganodd Fforwm economaidd y Byd mai Awstralia yw'r bedwaredd wlad gryfaf, yn ariannol.
  • De Affrica. Roedd chwyddiant yma yn hydref 2008 oddeutu 10% (o'i gymharu â tua 3% yng Ngwledydd Prydain. oherwydd llogau uchel, disgynnodd y nifer o geir a werthwyd yn y wlad i lawr 22% ym Mehefin i'r hyn oeddent y mis cynt.
  • Japan. Disgynodd yr allforion am y tro cyntaf ers pum mlynedd yn hydref 2008 (1.7 yn is). Roedd yr allforion i'r Unol Daleithiau oddeutu 22% yn is. Roedd dau o fanciau mawr o Japan ar restr credidwyr Lehman Brothers.
  • Pacistan. Chwyddiant o 25% yn 2008; y rupee wedi colli tuag 20% o'i werth.
  • Awstralia, 3 Mehefin 2009: y Llywodraeth yn cyhoedd fod yr economi, am yr ail chwarter yn ddilynol, wedi cynyddu o ran twf; mae hyn felly'n golygu nad ydyd Awstralia mewn arygwng economaidd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

Tags:

Dirwasgiad Mawr 2008-2012 Prisiau UchelDirwasgiad Mawr 2008-2012 Yr Argyfwng yn yr Unol DaleithiauDirwasgiad Mawr 2008-2012 Yr Argyfwng yn EwropDirwasgiad Mawr 2008-2012 Yr Argyfwng yng Ngwledydd PrydainDirwasgiad Mawr 2008-2012 Gwledydd EraillDirwasgiad Mawr 2008-2012 Gweler hefydDirwasgiad Mawr 2008-2012 CyfeiriadauDirwasgiad Mawr 2008-2012 Dolennau allanolDirwasgiad Mawr 2008-2012Lliniaru meintiolY Gorllewin

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

WicilyfrauSaesnegCarcharor rhyfelPsilocybinBroughton, Swydd NorthamptonPalesteiniaidGoogleColmán mac Lénéni2020auISO 3166-124 Ebrill2024EroticaLeigh Richmond RooseDewiniaeth CaosHerbert Kitchener, Iarll 1af KitchenerBlwyddynRichard Wyn JonesY Chwyldro DiwydiannolLlanfaglanTsiecoslofaciaIrunEdward Tegla DaviesGwibdaith Hen FrânThe Cheyenne Social ClubAnwythiant electromagnetigPiano LessonJess DaviesDiddymu'r mynachlogydd1809Y DdaearTaj MahalY Ddraig GochJulianWsbecistanCeri Wyn JonesSouthseaNaked SoulsCwnstabliaeth Frenhinol IwerddonCodiadDriggBadmintonMeilir GwyneddVirtual International Authority FileCynnwys rhyddAfon TyneBanc LloegrSeiri RhyddionCymryWiciadurSteve JobsSystem ysgrifennuTŵr EiffelNapoleon I, ymerawdwr FfraincWelsh TeldiscY FfindirTajicistanYr AlmaenFamily BloodAnialwchPuteindraTyrcegMao ZedongPenarlâgRaymond BurrArchaeolegMae ar Ddyletswydd🡆 More