Corff rhyngwladol yn ymwneud â materion economaidd yw'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (Saesneg: International Monetary Fund a dalfyrrir fel rheol i IMF).
Fe'i sefydlwyd yn 1944, yr un pryd a Banc y Byd, a dechreuodd yn swyddogol yn Rhagfyr 1945. Mae bron pob gwlad sy'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig yn aelodau o'r Gronfa, ac eithrio Ciwba, Taiwan, Gogledd Corea ac ychydig o wledydd bychain iawn.
Enghraifft o'r canlynol | international financial institution, asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Gorffennaf 1944 |
Pennaeth y sefydliad | Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol |
Prif weithredwr | Kristalina Georgieva |
Aelod o'r canlynol | Network for Greening the Financial System, ORCID |
Gweithwyr | 2,908 |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Washington |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.imf.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn draddodiadol, mae Cyfarwyddwr y Gronfa yn dod o Ewrop, tra fod pennaeth Banc y Byd yn dod o'r Unol Daleithiau.
Mae rhai wedi beirniadu'r Gronfa am ei hymlyniad wrth y farchnad rydd, ac yn dweud fod rhai o'r gwledydd tlotaf wedi cael eu gorfodi i gymeryd mesurau a oedd, yn eu tro, yn peri caledi i lawer o'u poblogaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cronfa Ariannol Ryngwladol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.