Diweithdra yw'r ystâd o fod heb waith; yn aml mae'n cyfeirio at y gyfradd o bobl sydd ar gael i weithio ac yn chwilio am waith, ond heb swydd.
Caiff ei gyfrifo fel canran drwy rannu'r nifer o bobl sy'n ddi-waith gyda'r boblogaeth gweithiol cyfan. Daw'r gair o'r geiryn "di" a "gwaith" (heb waith).
Roedd diweithdra Gwledydd Prydain ar gychwyn Chwefror 2009 wedi cynyddu i oddeutu 2,000,000.
Mae yna sawl rheswm pam y mae diweitheidra'n digwydd. Mae’r Monetarists yn credu mai chwyddiant sydd wrth wraidd diweithdra. Credant, felly, mai'r dull gorau i'w leihau yw buddsoddi mwy yn y farchnad - er mwyn creu mwy o swyddi yn y dyfodol. Mae economegywr Keynesiaid yn credu y dylai'r sector gyhoeddus ymyrryd gan greu mesurau fyddai'n hybu'r economi drwy brynu a gwerthu rhagor o nwyddau a gwasanaethau. Mae economegwyr clasurol ar y llaw arall yn beio trethi a deddfau ayb.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Diweithdra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.