Dinas yng ngogledd-ddwyrain Talaith Chubut, yr Ariannin, yw Trelew.
Saif y ddinas ar Afon Camwy (Río Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prifddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.
Math | dinas, bwrdeistref, dinas fawr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rawson Department |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 249 km² |
Uwch y môr | 11 metr |
Cyfesurynnau | 43.2533°S 65.3094°W |
Cod post | U9100 |
Tyfodd y ddinas pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Chubut i gysylltu rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Trelew oedd pen draw'r rheilffordd yn Nyffryn Camwy pan agorwyd hi yn 1888, er iddi gael ei hymestyn yn ddiweddarach.
Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd yn 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.
Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.
Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trelew, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.