Mae ffilm yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ddylanwadol iawn ar ffilm ledled y byd ers dechrau'r 20g.
Weithiau, rhennir hanes sinema yn yr Unol Daleithiau i bedwar prif gategori: cyfnod y ffilmiau mud, sinema glasurol Hollywood, Hollywood Newydd a'r cyfnod cyfoes (ar ôl 1980).
Ym 1878, dangosodd Eadweard Muybridge bŵer ffotograffiaeth i ddal symudiad. Ym 1894 cafwyd yr arddangosfa lluniau symudol cyntaf y byd yn Ninas Efrog Newydd, gan ddefnyddio Kinetoscope Thomas Edison. Y flwyddyn ganlynol, gwelwyd y ffilm gyntaf yn cael ei thaflunio yn Efrog Newydd ac roedd yr Unol Daleithiau ar flaen y gâd yn natblygiad ffilmiau sain yn y degawdau a ddilynodd. Ers dechrau'r 20g, lleolir y diwydiant ffilmiau yn yr Unol Daleithiau o amgylch Hollywood, Califfornia. Roedd y cyfarwyddwr D. W. Griffith yn ganolog i ddatblygiad ffilmiau ac yn aml, ystyrir ffilm Orson Welles Citizen Kane fel un o'r ffilmiau gorau erioed. Daeth actorion Americanaidd megis John Wayne a Marilyn Monroe yn ffigurau eiconig, tra bod y dyfeisiwr a chynhyrchydd Walt Disney yn arweinydd ym myd ffilmiau wedi'u hanimeiddio a gwerthu nwyddau a oedd yn gysylltiedig â ffilmiau. Stiwdios ffilmiau mawrion Hollywood yw canolbwynt ffilmiau llwyddiannus y byd megis Star Wars (1977) a Titanic (1997) ac mae'r ffilmiau a wneir yn Hollywood yn dominyddu'r diwydiant ffilmiau byd eang.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffilm yn yr Unol Daleithiau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.