Ffilm ramantaidd Americanaidd gan y cyfarwyddwr James Cameron yw Titanic (1997).
Mae'n serennu Leonardo DiCaprio fel Jack Dawson a Kate Winslet fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori ramantaidd sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan Gloria Stuart, sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | James Cameron |
Cynhyrchydd | Jon Landau James Cameron |
Ysgrifennwr | James Cameron |
Serennu | Leonardo DiCaprio Kate Winslet Billy Zane Frances Fisher Victor Garber |
Cerddoriaeth | James Horner |
Sinematograffeg | Russell Carpenter |
Golygydd | Conrad Buff James Cameron Richard A. Harris |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Yn rhyngwladol 20th Century Fox UDA/Canada Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 19 Rhagfyr, 1997 |
Amser rhedeg | 194 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym 1995, pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn Playas de Rosarito, Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth Paramount Pictures a 20th Century Fox. Bron i'r ddau gwmni fynd yn fethdalwyr yn ystod y cyfnod cynhyrchu.
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr 2il o Orffennaf, 1997, ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan 19 Rhagfyr 1997. Daeth y ffilm yn llwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Dosbarthwyd y ffilm hon gan Paramount Pictures. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 1,850,197,130 $ (UDA).
Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
.
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am y Gynllunio'r Cynhyrchiad Gorau, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Gwobr Ffilmiau Ewropeaidd - Gwobr Dewis y Bobl am yr Actores Orau.
Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: European Film Academy Achievement in World Cinema Award, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Titanic (ffilm 1997), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.