Actores a chantores o Loegr yw Katherine Elizabeth Kate Winslet (ganed 5 Hydref 1975).
Mae'n adnabyddus am chwarae ystod eang o gymeriadau, ond efallai caiff ei chydnabod fwyaf am ei pherfformiad fel Juliet Hulme yn Heavenly Creatures (1994), Marianne Dashwood yn Sense and Sensibility, Rose DeWitt Bukater yn Titanic, Iris Murdoch yn Iris (2001), Clementine Kruczynski yn Eternal Sunshine of the Spotless Mind (2004), Sarah Pierce yn Little Children (2006), Hanna Schmitz yn The Reader (2008), ac April Wheeler yn Revolutionary Road (2008).
Kate Winslet | |
---|---|
Ganwyd | Kate Elizabeth Winslet 5 Hydref 1975 Reading |
Man preswyl | West Wittering |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, actor llais, actor teledu, actor, actor llwyfan |
Taldra | 66 modfedd |
Tad | Roger John Winslet |
Mam | Sally Ann Bridges |
Priod | Jim Threapleton, Sam Mendes, Edward winslet Abel smith |
Partner | Stephen Tredre |
Plant | Joe Mendes, Mia Threapleton, Bear blaze Winslet |
Gwobr/au | CBE, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Ffilmiau Ewropeaidd - Gwobr Dewis y Bobl am yr Actores Orau, Gwobr Ffilmiau Ewropeaidd - Gwobr Dewis y Bobl am yr Actores Orau, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actores Gorau, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Time 100 |
Fe'i hanrhydeddwyd gan wobrau sy'n amrywio o Gymdeithas yr Actorion Sgrîn, Gwobrau BAFTA a'r Golden Globes. Mae Winslet hefyd wedi ennill Gwobr Grammy yn ogystal â chaiff ei henwebu am Oscar ar bump achlysur a Gwobr Emmy. Pan oedd yn 22 oed, torrodd y record am y person ifancaf erioed i gael ei henwebu am ddwy Oscar. Dywed David Edelstein o New York Magazine taw Winslet yw'r "best English-speaking film actress of her generation".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kate Winslet, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.