Mae Voyager 1 sy'n pwyso 722-kilogram (1,592 pwys) yn chwiliedydd gofod a lawnsiwyd gan NASA o Ganolfan Ofod, Kennedy, Fflorida ar 5 Medi 1977 ar berwyl i hedfan heibio'r planedau Iau a Sadwrn.
Gyda chwiliedydd arall, Voyager 2, roedd Voyager 1 yn gyfrifol am dynnu'r lluniau gorau o'r planedau a'u lloerennau ac yn sgil y lluniau hyn, darganfuwyd llosgfynyddoedd ar Io, a gwnaethpwyd y mesuriadau mwyaf manwl o awyrgylch y lloeren Titan gan y ddau chwiliedydd. Ar hyn o bryd mae Voyager 1 ar ei ffordd allan o Gysawd yr Haul trwy wregys Kuiper a hi yw'r roced sydd wedi teithio bellaf o'r Ddaear erioed.
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod |
---|---|
Màs | 815 cilogram, 733 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Rhaglen Voyager |
Olynwyd gan | Voyager 2 |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet |
Pellter o'r Ddaear | 155.653 uned seryddol |
Gwefan | http://voyager.jpl.nasa.gov |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cariodd y roced (fel Voyager 2 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd). Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Voyager 1, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.