Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig.
Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys nwy.
Enghraifft o'r canlynol | tirffurf folcanig |
---|---|
Math | mynydd |
Deunydd | craig folcanig, magma, lafa, llif lafa, teffra, twff, lludw |
Yn cynnwys | craig folcanig |
Cynnyrch | carbon deuocsid, craig igneaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.
Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.
Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:
Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llosgfynydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.