Mynydd yn ne Gwynedd yw Rhobell Fawr.
Daw'r enw o yr + (g)obell, sy'n golygu cyfrwy. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dolgellau, gyda dyffryn afon Mawddach yn ei wahanu oddi wrth y Rhinogydd ymhellach i'r gorllewin; cyfeiriad grid SH786256. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 425metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae pentrefi Llanfachreth a Rhydymain i'r de ohono.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 734 metr |
Cyfesurynnau | 52.814°N 3.802°W |
Cod OS | SH7868325668 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 309 metr |
Rhiant gopa | Arenig Fawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir ei ddringo ar hyd llwybrau sy'n dechrau gerllaw Rhydymain neu gerllaw Llanfachreth. Ceir coedwig gonifferaidd drwchus ar y llechweddau isaf. Ar un adeg roedd Rhobell Fawr yn llosgfynydd, a gellir gweld olion hyn ar y creigiau.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill copaon gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhobell Fawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.