Cantores soprano ac actores o Gymraes ydy Margaret Williams.
Yn wreiddiol daw o Frynsiencyn, Ynys Môn. Mae ei gwaith wedi amrywio o berfformio mewn sioeau cerdd i gyflwyno ei rhaglen deledu ei hun ar S4C. Caiff ei hystyried yn diva ac yn eicon hoyw Cymreig. Oherwydd hir-hoedledd ei gyrfa, fe'i hystyrir hefyd yn "drysor cenedlaethol" a chyfeiriodd Shan Cothi ati fel y "Joan Collins Cymreig".
Margaret Williams | |
---|---|
Ganwyd | Brynsiencyn |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr |
Fe'i magwyd ym Brynsiencyn ac aeth i'r ysgol gynradd leol ac yna Ysgol Uwchradd Biwmares. Cafodd wersi canu a piano drwy gydol ei arddegau, gan gystadlu mewn eisteddfodau er mwyn ennill arian. Cafodd ei derbyn yn 16 oed i Goleg Cerdd ym Manceinion ond nid oedd y teulu yn gallu fforddio ei danfon yno a gwrthodwyd grant iddi gan y cyngor nes ei bod yn 18 oed. Fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal, Bangor ar gwrs hyfforddi athrawon. Wedi gadael y coleg aeth i ddysgu i'r ysgol gynradd yn Biwmares.
Pan oedd yn 15 oed, perfformiodd fel unawdydd yn cynrychioli Sir Fôn yng nghystadleuaeth y BBC Ser y Siroedd.
Dechreuodd Williams ei gyrfa ym 1964 pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Wedi symud i Gaerdydd a dechrau canu yn broffesiynol ar deledu, un o'r rhaglenni cyntaf a ganodd arni oedd Os Gwelwch Yn Dda. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres ddychan Stiwdio B a'r gyfres adloniant Be Nesa?, cyfres gyntaf Ryan Davies. Roedd ei bryd ar hyfforddi i ganu opera ond am ei bod wedi priodi yn ifanc ac yn magu blant, roedd yn haws iddi ddilyn gyrfa canu ysgafn.
Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd gyda rhai o brif sêr y llwyfan yng Nghymru, yn cynnwys y diweddar Ryan Davies a Ronnie Hazlewood.
Margaret oedd enillydd cyntaf Cân i Gymru pan ddechreuodd y gystadleuaeth ym 1969.
Bu yn gyhoeddwr rhaglenni ar HTV Cymru yn yr 1970au ac ar S4C yn yr 1980au. Roedd ganddi ei chyfres ei hun, Margaret ar S4C rhwng 1982 a 1999.
Mae Williams wedi dylanwadu ar ddiwylliant fodern hefyd. Yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James, cyfeirir ati fel arwres camp i un o'r cymeriadau hoyw.
Mae'n briod a'r darlledwr Geraint Jones.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Margaret Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.