Gwlad Yr Iâ: Ynys a gweriniaeth sofran yng Ngogledd Ewrop

Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain.

Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.

Gwlad yr Iâ
Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd
Ísland
Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd
ArwyddairInspired by Iceland Edit this on Wikidata
Mathynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad OECD Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Edit this on Wikidata
PrifddinasReykjavík Edit this on Wikidata
Poblogaeth364,260 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 Mehefin 1944 (Sefydlu Gwlad yr Iâ) Edit this on Wikidata
AnthemLofsöngur Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBjarni Benediktsson Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Islandeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop, Y Gwledydd Nordig Edit this on Wikidata
Arwynebedd103,004 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Ynys Las, Ynysoedd Ffaröe, Svalbard Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65°N 19°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholAlþingi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethGuðni Jóhannesson Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBjarni Benediktsson Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$25,553 million, $27,842 million Edit this on Wikidata
ArianIcelandic króna Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.93 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.959 Edit this on Wikidata

Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.

Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.

Hanes

Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9g a'r 10fed. Nhw a sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.

Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynnol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.

Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd 
Map o 17g o Wlad yr Iâ.
Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd 
Pentref pysgota canoloesol (neu Ósvör) wedi'i ail greu nepell o Bolungarvík.

Daearyddiaeth

Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Grib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu— crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ledled y byd. Mae gan y wlad lawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.

Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol— ac Akureyri.

Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnfudo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.

Rhanbarthau

Ceir wyth rhanbarth yng Ngwlad yr Iâ, yn bennaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran côd-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, ni ddiffinir yr wyth rhanbarth yn ôl cyfraith y wlad ac nid oes iddynt drefn weinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.

# Cyfieithiad o'r enw Enw mewn
Islandeg
Poblogaeth
ddiweddaraf
Arwynebedd
(km²)
Pobl./
Arwynebedd
ISO 3166-2 Canolfan
weinyddol
Rhanbarthau Gwlad yr Iâ
1 Rhanbarth y Brifddinas Höfuðborgarsvæði 233,034 1,062 201.14 IS-1 Reykjavík
Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd 
2 Penrhyn y De Suðurnes 27,829 829 27.15 IS-2 Keflavík
3 Rhanbarth y Gorllewin Vesturland 17,541 9,554 1.65 IS-3 Borgarnes
4 Ffiords y Gorllewin Vestfirðir 7,379 9,409 0.73 IS-4 Ísafjörður
5 Rhanbarth y Gogledd-orllewin Norðurland vestra 7,322 12,737 0.56 IS-5 Sauðárkrókur
6 Rhanbarth y Gogledd-ddwyrain Norðurland eystra 30,600 21,968 1.33 IS-6 Akureyri
7 Rhanbarth y Dwyrain Austurland 11,227 22,721 0.55 IS-7 Egilsstaðir
8 Rhanbarth y De Suðurland 28,399 24,526 1.01 IS-8 Selfoss
Gwlad yr Iâ Ísland 364,260 102,806 3.23 IS


Siroedd

Gwlad Yr Iâ: Hanes, Daearyddiaeth, Siroedd 
Siroedd y wlad.

Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 sir neu sýslur:

* Árnessýsla
  • Austur-Barðastrandarsýsla
  • Austur-Húnavatnssýsla
  • Austur-Skaftafellssýsla
  • Borgarfjarðarsýsla
  • Dalasýsla
  • Eyjafjarðarsýsla
  • Gullbringusýsla
  • Kjósarsýsla
* Mýrasýsla
  • Norður-Ísafjarðarsýsla
  • Norður-Múlasýsla
  • Norður-Þingeyjarsýsla
  • Rangárvallasýsla
  • Skagafjarðarsýsla
  • Snæfellsnes-og Hnappadalssýsla
  • Strandasýsla
* Suður-Múlasýsla
  • Suður-Þingeyjarsýsla
  • Vestur-Barðastrandarsýsla
  • Vestur-Húnavatnssýsla
  • Vestur-Ísafjarðarsýsla
  • Vestur-Skaftafellssýsla

Economi

    Prif: Economi Gwlad yr Iâ

Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.

Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu hadeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn bwysicach.

    Prif: Daearyddiaeth Gwlad yr Iâ


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Gwlad Yr Iâ HanesGwlad Yr Iâ DaearyddiaethGwlad Yr Iâ SiroeddGwlad Yr Iâ EconomiGwlad Yr Iâ Gweler hefydGwlad Yr Iâ CyfeiriadauGwlad Yr Iâ Dolenni allanolGwlad Yr IâCefnfor IweryddEglwys LwtherIslandegPrydain FawrY LlychlynwyrYnys Las

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Morfydd ClarkNapoleon I, ymerawdwr FfraincWicipedia Sbaeneg25Johann Wolfgang von GoetheRajkanyaEconomi gylcholComin WicimediaLlyn EfyrnwyCaerfyrddinSeneddGwyddelegSposa Nella Morte!CipinRhyw tra'n sefyllCorff dynolRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrThe RewardThree Jumps AheadRaajneetiStrangerlandAmerikai AnzixBahadur Shah ZafarHenry VaughanCwpan y Byd Pêl-droed 2014MacOSNaturSobin a'r SmaeliaidStumogUnol Daleithiau AmericaGeraint JarmanSiarl I, brenin Lloegr a'r AlbanSiot dwad wynebElinor JonesLlenyddiaethRobert III, brenin yr AlbanFfraincAndrew ScottWalter CradockTabl cyfnodolIago VI yr Alban a I LloegrCapreseConversazioni All'aria Aperta19eg ganrifFfrwythAngharad MairChris Williams (academydd)PornoramaThe Price of FreeMarwolaethAled a Reg (deuawd)Ysgol SulYr Ynysoedd DedwyddBlwyddyn naidUn Nos Ola LeuadWikipediaAir ForceSpring SilkwormsRhywogaeth mewn peryglR.O.T.O.R.Caryl Parry JonesYr ArianninGalwedigaethY CroesgadauNeonstadtCockingtonCaversham Park VillageAmaethyddiaethOgof BontnewyddNovial🡆 More