Llosgfynydd ar ynys Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd (Canarias) yw Teide (hefyd Pico de Teide, Echeyde).
Dyma fynydd uchaf Sbaen, gydag uchder o 3718 medr, a thrydydd llosgfynydd uchaf y byd: ar ôl Mauna Loa a Mauna Kea yn Hawaii. Fe ffrwydrodd ddiwethaf ym 1909.
Math | llosgfynydd, tirnod |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Teide National Park |
Sir | Talaith Santa Cruz de Tenerife |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 3,715 metr |
Cyfesurynnau | 28.27264°N 16.64361°W |
Amlygrwydd | 3,715 metr |
Deunydd | basalt, phonolite, trachybasalt |
Mae'r llosgfynydd a'r ardal gyfagos wedi eu cofrestru fel Safle Treftadaeth y Byd, ers 29 Mehefin 2007. Mae gan y safle arwynebedd o 18,900 hectar (100 milltir sgwâr). Dyma un o Safleodd Treftadaeth mwyaf poblogaidd y byd gyda 2.8 miliwn o dwristiaid yn ymweld â'r lle'n flynyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Teide, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.