Newid Hinsawdd: Effaith negyddol dyn ar yr amgylchedd

Mae cynhesu byd-eang yn gynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a'r cynnydd pellach posibl yn y ganrif nesaf.

Mae'r cynhesu hwn yn effeithio patrymau tywydd y byd - gelwir hyn yn newid hinsawdd neu'n newid yn yr hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3 °C y ddegawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y nwyon tŷ gwydr, fel y'u gelwir, yn yr atmosffer. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach. Y gydran bwysicaf oll o'r nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2) oherwydd y maint a gynhyrchir, er fod gan nwyon eraill megis methan (CH4) fwy o effaith fesul moleciwl. Y ffynonellau allyriant CO2 mwyaf yw gorsafoedd pŵer, cerbydau, diwydiant a defnydd ynni'r cartref. Mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu tuag 80% at allyriant CO2 dynol yn fyd-eang.

Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen osôn
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori

Theori newid hinsawdd

Newid Hinsawdd: Theori newid hinsawdd, Tystiolaeth Dros Newid Hinsawdd, Gweler hefyd 
Cofnodion Tymheredd Ers 1880. Mae'r linell yn dangos cyfartaledd gofodol y tymheredd ar draws wyneb y ddaear, minws y cyfartaledd amserol dros y cyfnod 1951–1980 o'r cyfartaledd hwn.

Ers y chwyldro diwydiannol rydym wedi bod yn allyrru symiau enfawr o garbon deuocsid wrth i ni ddefnyddio mwy a mwy o egni. Mae carbon deuocsid, sef un o'r prif nwyon tŷ gwydr yn cronni yn yr atmosffer ac yn ynysu ein planed, gan atal rhag i wres isgoch ddianc. Ar y graff hinsawdd cyferbyn rydych yn gallu gweld bod y tymheredd yn cynyddu ers y chwyldro diwydiannol yn y 1800au.

Tystiolaeth Dros Newid Hinsawdd

Mae meteorolegwyr wedi bod yn astudio a chofnodi data am yr hinsawdd yn fanwl dros y ddwy ganrif ddiwethaf, yn Ewrop, Gogledd America, ac ychydig o wledydd trofannol. Mae'r dystiolaeth ddiweddar yma'n gallu bod yn ddefnyddiol, ond mae'n rhaid mynd ymhellach yn ôl mewn amser i weld y llun cyflawn. I wneud hyn mae'n rhaid edrych ar wahanol dystiolaeth.

Tystiolaeth Rewlifol

Mae rhewlifau yn encilio fel ymateb i newidiadau hinsoddol. Mae cofnodion manwl ar gael ers 1644 o dri rhewlif yn yr alpau yn Ffrainc, (Mer de Glace, d'Argentierre, a Des Bossons). Mae mwyafrif y rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd yn encilio ar hyn o bryd, rhai ohonynt yn gyflym iawn.

Creiddiau Iâ

Mae'r rhain yn mynd yn ôl ymhellach, yn achos Yr Ynys Las tua 100,000 o flynyddoedd cyn heddiw. Wrth archwilio samplau o iâ mae modd casglu gwybodaeth am yr amgylchiadau pan ffurfiwyd yr iâ. Mae'r swigod aer sydd wedi ei ddal yn yr iâ yn cario gwybodaeth am dymheredd a gwasgedd yr amgylchiadau. Gellir hefyd cymharu isotopau o fewn yr iâ lle mae'r mas atomig yn newid.

Tystiolaeth Ddaearegol

Mewn rhannau sych o Affrica mae yna batrymau o ddraenio a dyddodi afonol sy'n amhosib eu hegluro yn yr hinsawdd bresennol. Maent yn adlewyrchu cyfnod pan oedd Affrica yn derbyn llawer mwy o law na heddiw. Gall daearyddwyr defnyddio tystiolaeth fel hyn i ragdybio amodau'r gorffennol. Mae daearyddwyr yn defnyddio radio carbon (C14) er mwyn dyddio oedran ffosiliau ac organebau marw. Wrth iddynt bydru mae daearyddwyr a gwyddonwyr yn gallu astudio samplau er mwyn ei oedrannau.

Tystiolaeth Fiolegol

Mae'r astudiaeth o biomau yn dangos cydberthyniad agos gyda'r tymheredd, golau haul a dyodiad. Mae nifer o ddulliau wedi cael ei ddatblygu sy'n cysylltu planhigion gyda hinsoddau'r gorffennol. Gelwir y math yma o astudiaeth yn Dendrocronoleg.

Ymchwil Paill

Mae'r hinsawdd yn penderfynu pa fath o blanhigion sy'n tyfu mewn safle. Yn ystod eu hoes mae planhigion yn rhyddhau paill i'r ardal o'i amgylch. Weithiau mae gwaddodion o'r paill yn cael ei storio yn y ddaear, ac wrth astudio'r samplau yma gellir darganfod gwybodaeth am yr amgylchiadau.

Tystiolaeth Hanesyddol ac Archeolegol

Mae'r rhain yn cynnwys llenyddiaeth, lluniau a phaentiadau sy'n dangos tystiolaeth o'r amgylchiadau.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Newid Hinsawdd Theori newid hinsawddNewid Hinsawdd Tystiolaeth Dros Newid Hinsawdd Gweler hefydNewid Hinsawdd Dolenni allanolNewid HinsawddAtmosfferCarbon deuocsidMethanNwyon tŷ gwydrOes yr EfyddTanwydd ffosil

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1 AwstHelmut LottiUnol Daleithiau AmericaThe Disappointments Room27 HydrefNitrogen1693TutsiIsomerCymraegMalathionYr AmerigEfyddAderyn ysglyfaethusPrifadran Cymru (rygbi)MecsicoJennifer Jones (cyflwynydd)Amanita'r gwybedPlaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)AwstraliaEvil LaughIddewiaethJohn SullivanEneidyddiaethCymryNever Mind the BuzzcocksCwmni India'r Dwyrain210auDillwyn, VirginiaFfotograffiaeth erotigSeidrEnllynClive JamesPafiliwn PontrhydfendigaidRwsegSam WorthingtonFrankenstein, or The Modern PrometheusCyfunrywioldebMetabolaethIseldiregTwitterAlphonse DaudetDinas y LlygodBugail Geifr LorraineUTCYr Eglwys Gatholig RufeinigSbaenegShïaCymdeithas ryngwladolMy MistressInstagramGorilaHTMLProtonEagle EyeLos AngelesCodiadLlain GazaThere's No Business Like Show BusinessTriasigEidalegMicrosoft WindowsThe Chief1684Your Mommy Kills AnimalsTeulu ieithyddolWilliam Howard TaftBarry JohnDulynYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaPêl-côrffTywysog Cymru🡆 More