Iaith a siaredir yn Nhwrci a chan leiafrifoedd yng ngwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid yw Tyrceg (hefyd: Twrceg).
Mae'r iaith yn perthyn i gangen ddeheuol (Orghuz) o deulu'r ieithoedd Tyrcaidd, sydd yn ei dro yn gangen o'r ieithoedd Altaidd (sylwer bod anghytundeb ymhlith ieithyddion am berthynas Tyrceg â theuluoedd ieithyddol eraill).
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw, maes astudiaeth |
---|---|
Math | Western Oghuz |
Enw brodorol | Türkçe |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | tr |
cod ISO 639-2 | tur |
cod ISO 639-3 | tur |
Gwladwriaeth | Bwlgaria, Cyprus, Gwlad Groeg, Twrci, Gogledd Cyprus |
System ysgrifennu | Turkish alphabet |
Corff rheoleiddio | Turkish Language Association |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth yr iaith i'w diriogaeth bresennol yn Asia Leiaf, y Balcanau a'r Dwyrain Canol yn y 13g a'r 14g gyda goresgyniad y llwythau Tyrcaidd a fudodd o Ganolbarth Asia. Hyd at ddechrau'r 20g ysgrifennid Tyrceg yn yr ysgrifen Arabeg, ond yn 1929 fe'i newidiwyd ar orchymyn Mustafa Kemal Atatürk ac heddiw mae'n defnyddio gwyddor Rufeinig ac mae gramadeg yr iaith safonol wedi'i symleiddio a'i rheoleiddio'n sylweddol.
Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 762,516 o bobl yn siarad Tyrceg fel mamiaith ym Mwlgaria (9.6% o'r boblogaeth). Mae mwyafrif y siaradwyr Tyrceg yn byw yn ardaloedd Kardzhali (yn ne Bwlgaria) a Razgrad (yn y gogledd-ddwyrain). Tyrceg yw iaith y mwyafrif yn nwyrain Cyprus yn ogystal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tyrceg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.