Mae Japan (Japaneg: 日本 ynganiad Nihon; Nippon neu Nihon-koku; hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku.
Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan. Tokyo yw prifddinas y wlad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mwyaf poblog y mae: Yokohama, Osaka, Nagoya, Sapporo, Fukuoka, Kobe, a Kyoto. Yn y Cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 125,440,000 (Chwefror 2022).
日本国 neu 日本 Nippon-koku | |
Arwyddair | Endless discovery |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwlad OECD |
Prifddinas | Tokyo |
Poblogaeth | 125,440,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Kimigayo |
Pennaeth llywodraeth | Fumio Kishida |
Cylchfa amser | amser safonol Japan, Asia/Tokyo, UTC+09:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Japaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 377,972.28 km² |
Gerllaw | Môr Japan, Y Cefnfor Tawel, Môr Okhotsk, Môr Dwyrain Tsieina, Philippine Sea |
Yn ffinio gyda | Rwsia, De Corea, Taiwan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Unol Daleithiau America, Yr Undeb Sofietaidd, y Philipinau |
Cyfesurynnau | 35°N 136°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Japan |
Corff deddfwriaethol | National Diet |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Ymerawdwr Japan |
Pennaeth y wladwriaeth | Naruhito |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Japan |
Pennaeth y Llywodraeth | Fumio Kishida |
Crefydd/Enwad | Shintō, Bwdhaeth, Cristnogaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $5,005,537 million, $4,231,141 million |
Arian | Yen |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.38 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.925 |
Yn 2021, Japan oedd yr 11fed wlad fwyaf poblog yn y byd, yn ogystal ag un o'r gwledydd mwyaf poblog a threfol. Mae tua 75% o dir y wlad yn fynyddig, ac mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gwastadeddau arfordirol, cul. Rhennir Japan yn 47 o daleithiau gweinyddol ac wyth rhanbarth traddodiadol. Ardal Tokyo Fwyaf yw'r ardal fetropolitan fwyaf poblog yn y byd, gyda mwy na 37.4 miliwn o drigolion.
Mae pobl wedi byw yn Japan ers y cyfnod Paleolithig Uchaf (neu Hen Oes y Cerrig Uchaf, sef tua 30,000 CC), er bod y sôn ysgrifenedig cyntaf am yr archipelago yn ymddangos mewn cronicl Tsieineaidd a orffennwyd yn yr 2g OC. Gellir cymharu hyn gydag Ogof Bontnewydd, Llanelwy, lle cafwyd hyd i ddant dynol sy'n mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Rhwng y 4g a'r 9g, daeth unwyd teyrnasoedd Japan o dan un ymerawdwr a'r llys ymerodrol wedi'i leoli yn Heian-kyō. Gan ddechrau yn y 12g, daliwyd y pŵer gwleidyddol gan gyfres o unbeniaid milwrol (shōgun) ac arglwyddi ffiwdal (daimyō), drwy ddosbarth o uchelwyr rhyfelgar (samurai). Ar ôl cyfnod o ganrif o ryfel cartref, adunwyd y wlad ym 1603 o dan Tokugawa shogun, a ddeddfodd bolisi tramor ynysig. Ym 1854, gorfododd fflyd o logau milwrol a masnach o’r Unol Daleithiau Japan i fasnachu gyda'r Gorllewin, a arweiniodd at ddiwedd y shogunate ac adfer pŵer ymerodrol (Adferiad y Meiji) ym 1868. Yn y cyfnod Meiji, mabwysiadodd Ymerodraeth Japan gyfansoddiad wedi'i fodelu ar y Gorllewin a dilyn rhaglen a oedd yn datblygu diwydiant a moderneiddio. Yn 1937, goresgynnodd Japan Tsieina; ym 1941, aeth i'r Ail Ryfel Byd fel un o bartneriaid yr Almaen. Fe'i trechwyd yn Rhyfel y Môr Tawel a dau fomiad atomig Hiroshima a Nagasaki. Iildiodd Japan ym 1945 a daeth o dan feddiannaeth y Cynghreiriaid am gyfnod o saith mlynedd, pan fabwysiadodd gyfansoddiad newydd. O dan gyfansoddiad 1947, mae Japan wedi cynnal brenhiniaeth seneddol seneddol unedol gyda deddfwrfa ddwyochrog, y Ddau Dŷ, neu'r 'Diet' Cenedlaethol .
Mae Japan yn bwer mawr ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig (ers 1956), yr OECD, a'r Grŵp o Saith. Er ei bod wedi ymwrthod â’i hawl i ddatgan rhyfel, mae’r wlad yn cynnal Lluoedd Hunan-Amddiffyn a gaiff ei hystyried fel un o fyddinoedd cryfaf y byd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd Japan y twf mwyaf erioed yn economaidd, gan ddod yr economi ail-fwyaf yn y byd erbyn 1990. O 2021 ymlaen, economi'r wlad yw'r drydedd-fwyaf yn ôl CMC enwol a'r bedwaredd-fwyaf gan PPP. Caiff y wlad ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y diwydiannau modurol ac electroneg, ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth a thechnoleg. Yn "uchel iawn" ar y Mynegai Datblygiad Dynol, yma, ceir un o ddisgwyliadau oes ucha'r byd, er fod yma ostyngiad yn y boblogaeth. Mae diwylliant Japan yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnwys ei chelf, bwyd, cerddoriaeth, a'i diwylliant poblogaidd, sy'n cwmpasu diwydiannau comig, animeiddio a gemau fideo amlwg.
Bathiad estron yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg. Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon. Mae gan y ddau enw yr un ystyr sef "tarddiad yr haul", neu'r "wawr", a chaiff y ddau eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd neu darddiad.
Ym 1854, gorfododd y Comodore Matthew Perry a "Llongau Du " Llynges yr Unol Daleithiau Japan i agor ei drysau i'r byd mawr, drwy Chonfensiwn Kanagawa. Ond daeth nifer o gytundebau economaidd dilynol â gwledydd eraill y Gorllewin ag argyfyngau economaidd a gwleidyddol i'r wlad. Arweiniodd ymddiswyddiad y shōgun at Ryfel Boshin a sefydlu gwladwriaeth ganolog a unwyd (mewn enw) o dan yr ymerawdwr (gw. Adferiad y Meiji). Gan fabwysiadu trefniant gwleidyddol y Gorllewin, gan gynnwys: sefydliadau barnwrol a milwrol, trefnodd y Cabinet y Cyfrin Gyngor, cyflwynodd Gyfansoddiad Meiji, a sefydlodd y Diet Imperial. Yn ystod y cynod Meiji (1868-1912), daeth Ymerodraeth Japan i'r amlwg fel y genedl fwyaf datblygedig yn Asia ac fel pŵer byd diwydiannol a aeth ar drywydd gwrthdaro milwrol i ehangu ei gylch dylanwad. Ar ôl buddugoliaethau yn y Rhyfel Sino-Japaneaidd Cyntaf (1894-1895) a Rhyfel Russo-Japan (1904-1905), enillodd Japan reolaeth ar Taiwan, Corea a hanner deheuol Sakhalin. Dyblodd poblogaeth Japan o 35 miliwn ym 1873 i 70 miliwn erbyn 1935, gyda symudiad sylweddol at drefoli.
Yn gynnar yn yr 20g cysgodolwydcafwyd cyfnod o ddemocratiaeth Taishō (1912-1926) gan gryfhau'r fyddin yn barhaus. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf i Japan, ymunodd ag ochr y Cynghreiriaid buddugol, a meddiannodd lawer o eiddo'r Almaen yn y Môr Tawel ac yn Tsieina. Yn y 1920au gwelwyd symudiad gwleidyddol tuag at statism, cyfnod o anhrefn, yn dilyn Daeargryn Fawr Tokyo 1923, pasio deddfau yn erbyn anghytuno gwleidyddol, a chyfres o ymdrechu i ddymchwel y llywodraeth. Ym 1931, goresgynnodd a meddiannodd Japan Manchuria; yn dilyn condemniad rhyngwladol; ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymddiswyddodd o Gynghrair y Cenhedloedd. Ym 1936, llofnododd Japan y Cytundeb Gwrth-Comintern gyda'r Almaen Natsïaidd; gwnaeth y Cytundeb Tridarn 1940 yn un o'r Pwerau Echel.
Ymosododd Ymerodraeth Japan ar rannau eraill o Tsieina ym 1937, ac ymladdwyd yr Ail Ryfel Sino-Japaneaidd (1937–1945). Ym 1940, goresgynnodd yr Ymerodraeth Indochina (a hawliwyd gan Ffrainc), ac ar ôl hynny gosododd yr Unol Daleithiau embargo olew ar Japan. Ar Ragfyr 7–8, 1941, cynhaliodd lluoedd Japan ymosodiadau annisgwyl ar Pearl Harbour, yn ogystal ag ar luoedd Lloegr ym Malaya, Singapore, a Hong Kong, ymhlith eraill, gan ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn y Môr Tawel. Ar draws ardaloedd a feddiannwyd gan Japan yn ystod y rhyfel, gwelwyd camdrin trigolion lleol, gyda llawer yn cael eu gorfodi i gaethwasiaeth rywiol. Ar ôl buddugoliaethau’r Cynghreiriaid yn ystod y pedair blynedd nesaf, a arweiniodd at oresgyniad Sofietaidd o Manchuria a bomiau atomig Hiroshima a Nagasaki ym 1945, cytunodd Japan i ildio’n ddiamod. Costiodd y rhyfel ei threfedigaethau a miliynau o fywydau i Japan. Dilewyd ymerodraeth Japan i raddau helaeth a’i dylanwad dros y tiriogaethau a orchfygodd. Cynullodd y Cynghreiriaid y Tribiwnlys Milwrol Rhyngwladol ar gyfer y Dwyrain Pell i erlyn arweinwyr Japan am droseddau rhyfel.
Ym 1947, mabwysiadodd Japan gyfansoddiad newydd yn pwysleisio arferion democrataidd rhyddfrydol. Daeth meddiant y Cynghreiriaid i ben gyda Chytundeb San Francisco ym 1952, ac ailymunodd y wlad gyda'r Cenhedloedd Unedig ym 1956. Yn ddisymwth, daeth Japan yr economi ail-fwyaf yn y byd; ond daeth hyn i ben yng nghanol y 1990au. Ar 11 Mawrth 2011, dioddefodd Japan un o’r daeargrynfeydd mwyaf yn ei hanes gan sbarduno trychineb niwclear Fukushima Daiichi. Ar 1 Mai 2019, ar ôl ymwrthod hanesyddol â'r Ymerawdwr Akihito, daeth ei fab Naruhito yn Ymerawdwr, gan ddechrau oes Reiwa.
Mae 6,852 o ynysoedd yn Japan, a'r ynys fwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Honshū sydd yn ymestyn ar hyd canolbarth y wlad. Mae tair ynys arall sy'n neilltuol o ran maint a phoblogaeth – Hokkaidō yn y gogledd, Kyūshū yn y de-orllewin a Shikoku yn y de. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw arnynt. Dyma'r rheswm dros y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san; 3776 m).
Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân (y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel) ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn y wlad.
Mae gan Japan 108 o losgfynyddoedd byw. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, daeth sawl llosgfynydd newydd i'r golwg, gan gynnwys Shōwa-shinzan ar ynys Hokkaido a Myōjin-shō oddi ar Greigiau Bayonnaise yn y Cefnfor Tawel. Mae daeargrynfeydd dinistriol, sy'n arwain yn aml at tswnami, yn digwydd sawl gwaith bob canrif. Bu farw dros 140,000 o bobl yn naeargryn Tokyo yn 1923.
Prifddinas Japan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt wleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd â rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 . Dinasoedd mawr eraill Japan yw Osaka, Nagoya, Sapporo, Kobe, Kyoto, Fukuoka, Kawasaki a Saitama.
Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system debyg iawn i'r hyn sydd yng ngwledydd Prydain.
Shinzo Abe o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (neu'r LDP) ydy Prif Weinidog Japan ers Rhagfyr 2012.
Tarddodd anime yn Japan, math o animeiddio gyda chryn ddylanwad manga arno. Ceir genre unigryw a marchnad enfawr ar ei gyfer ar ffurf gemau fideo hefyd, sydd wedi bod ers y 1980au.
Mae cerddoriaeth Japan yn amrywiol iawn, ac yn adlewyrchu'r hen a'r newydd; ceir llawer o hen offerynnau fel y koto sy'n mynd yn ôl i'r 9fed a'r 10g. Mae canu gwerin yn mynd nol i'r 17fed canrif. Dau o'u cyfansoddwr modern gora nhw yw Toru Takemitsu a Rentarō Taki. Ers yr Ail Ryfel Byd mae cerddoriaeth America ac Ewrop wedi dylanwadu'n fawr ac mae carioci'n bwysig iawn ganddynt.
Yn 2009 Japan oedd ail economi fwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr. Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.
Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.
Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.
Yng ngogledd y wlad mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.
Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.
1. Hokkaidō | 2. Aomori 3. Iwate 4. Miyagi 6. Yamagata 7. Fukushima | 8. Ibaraki 9. Tochigi | 15. Niigata |
24. Mie | 31. Tottori | 36. Tokushima | 40. Fukuoka |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Japan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.