Mae blwyddyn golau (symbol rhyngwladol: ly, seiliedig ar yr enw Saesneg, light year) yn uned fesur o hyd, yn benodol y pellter y mae golau yn teithio mewn gwactod (vacuum) mewn blwyddyn.
Er nad oes penderfyniad awdurdodol ar ba flwyddyn galendraidd i'w defnyddio, mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) yn argymell y flwyddyn Julian.
Enghraifft o'r canlynol | uned mesur hyd, non-standard unit, uned sy'n deillio o UCUM, cysonyn ffisegol, cysonyn UCUM |
---|
Mae un flwyddyn golau yn cyfateb i:
Mae pellterau a fesurir mewn 'ffracsiynau blwyddyn golau' yn cael eu defnyddio ar gyfer gwrthrychau o fewn cyfundrefn heulog fel ein Cysawd yr Haul ni.
Mae pellterau a fesurir mewn 'blynyddoedd golau' yn cynnwys y pellterau rhwng sêr agos, fel y rhai mewn breichiau troellog neu glysterau globiwlar.
Defnyddir y 'cilo-flwyddyn golau' (kilolight-year; "kly"), sy'n 1,000 blwyddyn golau, neu tua 307 parsec, i fesur pellterau rhwng rhannau o'r un galaeth yn bennaf.
Mae un 'mega-flwyddyn golau' (megalight-year; "Mly"), yn un filiwn blwyddyn golau, neu tua 306,600 parsec. Defnyddir mega-flynyddoedd golau fel rheol i fesur pellteroedd rhwng galaethau cymdogol a chlysterau galaethau.
Mae un 'giga-flwyddyn golau' (gigalight-year, "Gly"), yn un o'r mesurau mwyaf sy'n bodoli: un biliwn (1000000000) blwyddyn golau. Mae un giga-flwyddyn golau yn o gwmpas 306.6 miliwn parsec neu, yn fras, un rhan mewn 13 (1/13) o'r pellter i orwel y bydysawd gweladwy. Fel rheol defnyddir unedau giga-flwyddyn golau i mesur y pellter i wrthrychau uwchalaethol, fel clysterau o quasars neu'r Mur Mawr.
Ffactor (ly) | Gwerth | Eitem |
---|---|---|
10−9 | ||
40.4 e-9 ly | Mae goleuni'r haul a adlewyrchir gan wyneb y Lleuad yn cymryd 1.2-1.3 eiliad i gyrraedd wyneb y Ddaear. (Mae'r Lleuad tua 384400 kilomedr o'r Ddaear, ar gyfartaledd. 384400 km ÷ 300000 km/eiliad (tua cyflymder golau) ≈ 1.28 eiliad) | |
10−6 | ||
15.8 e-6 ly | Un uned seryddol (AU) (y pellter o'r Haul i'r Ddaear). Mae'n cymryd tua 8.31 munud i olau deithio'r pellter hwn. | |
10−3 | ||
1.5 e-3 ly | Roedd Voyager 1, y prôb mwyaf pell hyd yn hyn, tua 13 oriau golau i ffwrdd o'r Ddaear ym Medi 2004. Cymerodd Voyager 27 blwyddyn i deithio'r pellter hynny. | |
100 | ||
2 e0 ly | Mae'r Cwmwl Oort tua 2 flwyddyn golau mewn diamedr. | |
4.21 e0 ly | Y seren agosaf (heblaw'r Haul), yw Proxima Centauri sydd o gwmpas 4.22 blwyddyn golau i ffwrdd. | |
103 | ||
26 e3 ly | Mae canol galactig ein galaeth, y Llwybr Llaethog, tua 8 kiloparsec i ffwrdd. | |
100 e3 ly | Lled ein Galaeth ni yw tua 100,000 blwyddyn golau. | |
106 | ||
2.5 e6 ly | Mae Galaeth Andromeda tua 2.5 mega-flwyddyn golau i ffwrdd. | |
3.14 e6 ly | Galaeth Triangulum (M33), ar 3.14 mega-flwyddyn golau o bellter, yw'r gwrthrych mwyaf pell i ffwrdd y gellir ei weld â'r llygaid. | |
59 e6 ly | Mae'r clwster galaethau mawr agosaf, Clwster Virgo, tua 59 mega-flwyddyn golau i ffwrdd. | |
150 e6 - 250 e6 ly | Mae'r Atynydd Mawr yn gorwedd ar bellter o rwng 150 a 250 mega-flwyddyn golau i ffwrdd. | |
109 | ||
1 e9 ly | Amcangyfrir fod Mur Mawr Sloan (ni ddylid ei gymysgu â'r Mur Mawr cyffelyb) tua 1 giga-flwyddyn golau i ffwrdd. | |
46.5 e9 ly | Mae'r pellter cydsymudol o'r Ddaear i ymyl y bydysawd gweladwy yn mesur tua 46.5 giga-flwyddyn golau mewn unrhyw un cyfeiriad; hwn yw radiws cydsymudol y Bydysawd gweladwy. |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Blwyddyn golau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.