Mewn cosmoleg ffisegol, mae'r term strwythur graddfa fawr y cosmos yn cyfeirio at y nodweddu o'r dosbarthiadau gweladwy o fater a golau ar y graddfeydd mwyaf posibl (fel rheol yn nhermau pellderau a maintioli a fesurir mewn biliynau o flynyddoedd golau).
Mae arolygon o'r awyr a mapio'r amrywiol fandiau tonfeydd ymbelydredd electromagnetig (yn arbennig yn y band 21-cm) wedi ildio llawer o wybodaeth am gynnwys a nodweddion srwythur elfennol y bydysawd. Ymddengys fod trefn strwythur neu adeiladwaith y cosmos yn dilyn model hierarchiaethyddol gyda'r 'unedau' sylfaenol yn cynyddu mewn maint hyd at faint uwchglystyrau ac edafedd galaethau. Y tu hwnt i hynny, ymddengys na cheir strwythuro ar raddfa uwch, ffenomen y cyfeirir ati gan rai fel "Diwedd Maint".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Strwythur graddfa fawr y cosmos, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.