Gorsedd Y Beirdd

Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill y byd diwylliannol Cymraeg yw Gorsedd Cymru neu Yr Orsedd.

Fe'i sefydlwyd fel Gorsedd Beirdd Ynys Prydain gan Iolo Morganwg yn Llundain yn 1792 ac mae'r enw llawn yn parhau fel enw seremonïol. Yn Awst 2019 penderfynwyd arddel yr enw Gorsedd Cymru yn hytrach na Gorsedd y Beirdd.

Gorsedd y Beirdd
Enghraifft o'r canlynolgorsedd Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gorsedd.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorsedd Y Beirdd
Yr Orsedd sy'n gyfrifol am drefniadau'r Cadeirio a'r Coroni. Yn y llun hwn: Ceri Wyn Jones yn cael ei goroni yn 2009.

Mae tair carfan o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r Archdderwydd bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. Gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaith mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng Nghylch yr Orsedd. Unwaith, cynhaliwyd cyfarfod o'r orsedd yn Llydaw.

Fe anrhydeddir bob blwyddyn Gymry amlwg sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru drwy eu gwahodd i ddod yn aelod o'r orsedd.

Gorsedd Y Beirdd
Baner yr Orsedd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Caerfyrddin 1819 yng ngwesty'r Llwyn Iorwg (neu'r Ivy Bush) yng Nghaerfyrddin, a phenderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r defodau. Ers hynny mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig seremonïau'r Cadeirio, y Coroni a'r Fedal Ryddiaith. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.

Gwaith dychymyg Iolo Morganwg yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw'r Nod Cyfrin sydd ar holl regalia'r Orsedd. Ymhlith y rhai sy'n cael eu gwisgo gan yr Archdderwydd mae coron, dwyfronneg a theyrnwialen. Yn perthyn i'r orsedd hefyd mae Baner yr Orsedd, Cleddyf yr Orsedd a'r Hanner Cleddyf. Bydd cleddyf yr orsedd yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod. Cleddyf heddwch yw hi a dyna pam na fydd byth yn cael ei thynnu'r holl ffordd o'r wain.

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd gan un o famau'r fro i estyn croeso'r ardal i'r eisteddfod. Yn hanesyddol roedd yr hen gorn yfed yn llys y tywysogion yn estyn croeso i'r gwahoddedigion i'r llys. Bydd un o forynion yr ardal yn rhoi Aberthged i'r Archdderwydd sef ysgub o ŷd, gwair a blodau'r maes yn arwydd o roddion Duw i'r ardal.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

Dolenni allanol


Gorsedd Y Beirdd  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Gorsedd Y Beirdd CyfeiriadauGorsedd Y Beirdd Gweler hefydGorsedd Y Beirdd LlyfryddiaethGorsedd Y Beirdd Dolenni allanolGorsedd Y Beirdd1792BarddCerddoriaeth GymraegDiwylliant CymraegIolo MorganwgLlenyddiaeth GymraegLlundain

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Derek UnderwoodC'mon Midffîld!Rhestr unfathiannau trigonometrigAderyn bwn lleiafYr HolocostY Derwyddon (band)Dydd Gwener y GroglithHen GymraegGwenan GibbardRalphie MayRhestr llynnoedd CymruEdward H. DafisAstreonamRMS Titanic1700auNasareth (Galilea)Bugail Geifr LorraineTor (rhwydwaith)Spring SilkwormsGramadegOceaniaIkurrinaWicidataBeijingThomas VaughanCaeredinLa Ragazza Nella NebbiaPab Innocentius IXCronfa ClaerwenGari WilliamsAfter Porn Ends 2Cod QRCurveGwyddelegThe Gypsy MothsRustlers' RoundupAfter EarthC.P.D. Dinas AbertaweIâr (ddof)Sex and The Single GirlBig JakeRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrSenedd y Deyrnas UnedigLlyn CelynHebraegDiodGlawIndonesiaOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandHTTPDohaBretagneWikipediaPachhadlelaYn SymlArgyfwng tai CymruCedorYn y GwaedPeiriant WaybackAlbanegHedd WynRajkanyaParalelogramAnna VlasovaSefydliad WicimediaLlyngesKathleen Mary FerrierCattle KingPafiliwn PontrhydfendigaidMambaURL🡆 More