Y Post Brenhinol (Gaeleg yr Alban: a' Phuist Rìoghail; Saesneg: The Royal Mail) yw'r gwasanaeth post gwladol ar gyfer y Deyrnas Unedig a sefydlwyd yn 1516.
Ar un adeg roedd gan y Post Brenhinol fonopoli yn y DU, ond bellach mae'n gorfod cystadlu mewn rhai meysydd â sawl gwasanaeth post arall. Hyd at yn ddiweddar y Post Brenhinol oedd berchen busnesau'r swyddfeydd post, ond cawsant eu dad-genedlaetholi. Bu'r Swyddfa Bost yn symbol o'r sefydliad ('swyddogol') Seisnig yng Nghymru yn ystod y 1960au a'r 70au gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, a welwyd yn meddiannu'r swyddfeydd lleol mewn sawl tref yng Nghymru er mwyn hawlio dogfennau a ffurflenni Cymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | busnes, gwasanaeth post, menter, cwmni preifat |
---|---|
Rhan o | FTSE 100 Index |
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Perchennog | Schroders, Royal Mail Share Incentive Plan, Vesa Equity Investment |
Prif weithredwr | Rico Back |
Sylfaenydd | Harri VIII |
Isgwmni/au | Parcelforce, General Logistics Systems, Ecourier |
Rhiant sefydliad | International Distributions Services |
Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.royalmail.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o is-grwpiau'r cwmni yw Royal Mail Group Limited, sy'n gyfrifol am ddosbarthu llythyrau, dan yr enw 'Post Brenhinol'. Postir y llythyr mewn 'blwch postio' neu fe ddaw'r postmon o amgylch i'w casglu gan fusneseuon. Yna daw'r postman i wagio'r blychau post yn ddyddiol, ar wahân i'r Sul a cheisiant ddosbarthu'r llythyrau y diwrnod wedyn, ond nid yw hyn yn cael ei warantu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Post Brenhinol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.