Yn economeg, term sy'n disgrifio diwydiant neu sector economaidd arall lle mae'r rheolaeth yn nwylo un cyflenwr gan mai'r cyflenwr hwnnw yw'r unig un sy'n cyflenwi'r farchnad yw monopoli.
Mewn damcaniaeth, mae hynny yn golygu rheolaeth lwyr neu "fonopoli cyflawn" ond yn ymarferol mae'r rhan fwyaf o fonopolïau heddiw yn "lled-fonopolïau", gyda chyflenwr yn dominyddu'r farchnad bron yn llwyr ond gyda lle i ambell gwmni bychan hefyd (e.e. cwmni bws fel Arriva Cymru mewn cystadleuaeth a nifer fechan o gwmnïau lleol llai).
Gall y monopolïydd gael pris uchel am ei gynnyrch trwy gyfyngu'r cyflenwad ar y farchnad fel bod y cyflenwad o nwyddau yn llai na'r alwad amdano. Ond am fod hynny'n milwro yn erbyn budd y cwsmer, ond yn y rhan fwyaf o economïau modern mae'r wladwriaeth yn cyfyngu ar fonopolïau preifat trwy ddeddfwriaeth. Eithriad i'r drefn honno yw monopolïau gwladol, e.e. yn achos diwydiannau a gwasanaethau gwladoliedig, fel Glo Prydain a British Rail ar un adeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Monopoli, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.