Gwleidydd Cymreig yw Vaughan Gething (ganwyd 1974) sy'n arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru ers Mawrth 2024.
Vaughan Gething AS | |
---|---|
Arweinydd Llafur Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 16 Mawrth 2024 | |
Arweinydd | Keir Starmer |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 19 May 2016 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Dirprwy Weinidog dros Iechyd | |
Mewn swydd 11 Medi 2014 – 19 Mai 2016 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Gweinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Rebecca Evans |
Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi | |
Mewn swydd 6 Mai 2011 – 11 Medi 2014 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Gweinidog | Jeffrey Cuthbert |
Aelod o Senedd Cymru dros De Caerdydd a Phenarth | |
Rhagflaenwyd gan | Lorraine Barrett |
Mwyafrif | 6,259 (22.8%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Lusaka, Zambia | 15 Mawrth 1974
Cenedl | Cymro |
Plaid wleidyddol | Llafur Cyd-weithredol |
Alma mater | Prifysgol Cymru |
Gwaith | Cyfreithiwr, undebwr |
Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd ers 2011 ac roedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2024.
Ganwyd Humphrey Vaughan Ap David Gething yn Lusaka, prifddinas Sambia. Roedd ei dad yn 1974 yn filfeddyg o Aberogwr a symudodd yno i weithio lle gyfarfu mam Gething, oedd yn cadw ieir.
Symudodd y teulu i wledydd Prydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger Y Fenni. Wedi cyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl. Felly symudodd y Dorset ble magwyd Gething.
Daeth yn ôl i Gymru fel myfyriwr i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Cafodd ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.
Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Trebiwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.
Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford ei fod am sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur, sefodd Gething fel ymgeisydd ar gyfer ar arweinyddiaeth. Ei unig wrthwynebydd oedd Jeremy Miles.
Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei feirniadu am dderbyn £200,000 o roddion gan berchennog cwmni gwastraff dadleuol yng Nghaerdydd. Roedd hefyd cwestiynau ynglyn a'i enwebiad gan undeb Unite, am fod Jeremy Miles ddim yn gymwys o dan reolau'r undeb. Nid oedd Miles yn gymwys o dan reol newydd nad oedd ym ymwybodol ohono a ni wnaeth Unite ei hysbysu ohono yn ystod y hustingau. Felly dim ond Gething a gafodd ei gymeradwyo gan Unite.
Ar 16 Mawrth 2024 cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad gyda Gething yn ennill o 51.7% i 48.3%. O'i ethol, Gething fydd yr arweinydd du cyntaf o unrhyw wlad yn Ewrop.
Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg COVID-19 ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban oedd i'w chwarea yn Stadiwm y Principality ar 14 Mawrth 2020.
Daeth Gething o dan sawl beirnidaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).
Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o Gynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2020. Bu galw arno i ymddiswyddo gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vaughan Gething, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.