Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban yw Gweinyddir rygbi'r undeb yn yr Alban gan Undeb Rygbi'r Alban.
Chwaraewyd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf erioed rhwng yr Alban a Lloegr yn Raeburn Place, Caeredin ym mis Mawrth 1871, gyda'r Alban yn fuddugol.
Enillodd yr Alban y Goron Driphlyg am y tro cyntaf yn 1907, gan gystadlu'n frwd a Cymru yn ystod y degawd yma. Enillwyd Y Gamp Lawn am y tro cyntaf yn 1925, y flwyddyn y chwaraewyd gemau yn Stadiwm Murrayfield am y tro cyntaf.
Enillodd yr Alban y Gamp Lawn am yr ail dro yn 1984 ac am y trydydd tro yn 1990, pan gurwyd Lloegr, oedd yn mynd am y Gamp Lawn eu hunain, yn y gêm olaf o Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn Murrayfield. Yr Alban hefyd a enillodd Bencampwriaeth y Pum Gwlad am y tro olaf yn 1999, cyn i'r Eidal gael ei ychwanegu i greu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn y blynyddoedd diwethaf nid yw'r Alban wedi bod yn llwyddiannus iawn, a chollodd y rheolwr Matt Williams ei swydd yn 2005. Apwyntiwyd Frank Hadden i gymeryd ei le.
Mae eu canlyniadau yn erbyn timau rhyngwladol eraill fel a ganlyn, yn nhrefn y nifer o gemau (yn gywir hyd at Hydref, 2005):
Yn erbyn | Gemau | Ennill | Colli | Cyfartal |
---|---|---|---|---|
Lloegr | 122 | 40 | 65 | 17 |
Iwerddon | 118 | 61 | 51 | 5 |
Cymru | 110 | 47 | 60 | 3 |
Ffrainc | 78 | 33 | 42 | 3 |
Seland Newydd | 24 | 0 | 22 | 2 |
Awstralia | 21 | 6 | 15 | 0 |
De Affrica | 15 | 4 | 11 | 0 |
Yr Eidal | 10 | 7 | 3 | 0 |
Rwmania | 9 | 7 | 2 | 0 |
Ariannin | 5 | 1 | 4 | 0 |
Samoa | 4 | 4 | 1 | 0 |
Ffiji | 4 | 3 | 1 | 0 |
Tonga | 2 | 2 | 0 | 0 |
Canada | 2 | 1 | 1 | 0 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.