Prifddinas yr Almaen a dinas fwyaf Gorllewin Ewrop yw Berlin, gydag oddeutu 3,755,251 (31 Rhagfyr 2022) o drigolion.
Mae'n sefyll ar lannau afonydd Spree ac Havel yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Yn un o 16 talaith gyfansoddol yr Almaen, mae Berlin wedi'i hamgylchynu gan dalaith Brandenburg, ac yn uno gyda Potsdam, prifddinas Brandenburg. Mae gan ardal drefol Berlin boblogaeth o oddeutu 4.5 miliwn a hi yw'r ail ardal drefol fwyaf poblog yn yr Almaen ar ôl y Ruhr. Mae gan brifddinas-ranbarth Berlin-Brandenburg oddeutu chwe miliwn o drigolion a hi yw trydydd rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen ar ôl rhanbarthau Rhine-Ruhr a Rhine-Main.
Math | sedd y llywodraeth, metropolis, Einheitsgemeinde yr Almaen, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, tref wedi'i rhannu gan ffin, dinas-wladwriaeth, independent city in Berlin, y ddinas fwyaf, dinas fawr, prifddinas, taleithiau ffederal yr Almaen |
---|---|
Cysylltir gyda | Llwybr Ewropeaidd E55 |
Poblogaeth | 3,755,251 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Kai Wegner |
Cylchfa amser | Central European Standard Time (GMT+1) |
Gefeilldref/i | Kyiv |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Fetropolitan Berlin/Brandenburg, crynhoad Berlin |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 891.12 km² |
Uwch y môr | 34 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Spree, Großer Wannsee, Llyn Tegel, Havel, Dahme, Müggelsee, Aalemannkanal, Camlas Neukölln Ship, Camlas Luisenstadt, Camlas Teltow, Camlas Landwehr, Camlas Westhafen, Camlas Gosen, Tegeler Fließ, Berlin-Spandau Ship Canal |
Yn ffinio gyda | Brandenburg |
Cyfesurynnau | 52.52°N 13.38°E |
Cod post | 10115–14199 |
DE-BE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Abgeordnetenhaus of Berlin |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governing Mayor of Berlin |
Pennaeth y Llywodraeth | Kai Wegner |
Mae Berlin yn pontio glannau Afon Spree, sy'n llifo i mewn i Afon Havel (llednant Afon Elbe) ym mwrdeistref orllewinol Spandau. Ymhlith prif nodweddion topograffig y ddinas mae'r nifer o lynnoedd yn y bwrdeistrefi gorllewinol a de-ddwyreiniol a ffurfiwyd gan afonydd Spree, Havel a Dahme (y mwyaf ohonynt yw Llyn Müggelsee). Oherwydd ei leoliad yn y Gwastadedd Ewropeaidd, caiff Berlin hinsawdd dymhorol dymherus. Mae tua thraean o ardal y ddinas yn cynnwys coedwigoedd, parciau, gerddi, afonydd, camlesi a llynnoedd. Gorwedd y ddinas yn ardal dafodiaith Canol yr Almaen, gyda thafodiaith Berlin yn amrywiad o'r tafodieithoedd a elwir yn "Lusatian-New Marchian".
Cofnodwyd Berlin fel anheddiad dynol yn gyntaf yn y 13g: mae ei safle ar groesfan rhwng dau lwybr masnach hanesyddol pwysig. Daeth Berlin yn brifddinas Margraviate Brandenburg (1417–1701), Teyrnas Prwsia (1701-1918), Ymerodraeth yr Almaen (1871 –1918), Gweriniaeth Weimar (1919–1933), a'r Drydedd Reich (1933–1945). Berlin yn y 1920au oedd y drydedd fwrdeistref fwyaf yn y byd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a'i meddiant dilynol gan y gwledydd buddugol, rhannwyd y ddinas: daeth Gorllewin Berlin yn diriogaeth de facto yng Ngorllewin yr Almaen, wedi'i amgylchynu gan Wal Berlin (1961-1989) a thiriogaeth Dwyrain yr Almaen. Cyhoeddwyd bod Dwyrain Berlin yn brifddinas Dwyrain yr Almaen, tra daeth Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen. Yn dilyn ailuno'r Almaen ym 1990, daeth Berlin yn brifddinas yr Almaen gyfan unwaith eto.
Mae Berlin yn ddinas a gaiff ei chydnabod yn fyd-eang am ei diwylliant, ei gwleidyddiaeth, ei chyfryngau a'i gwyddoniaeth. Mae ei heconomi yn seiliedig ar gwmnïau uwch-dechnoleg a'r sector gwasanaethau, gan gwmpasu ystod amrywiol o ddiwydiannau creadigol, cyfleusterau ymchwil, corfforaethau cyfryngau a lleoliadau addas ar gyfer cynadleddau enfawr. Mae Berlin yn gweithredu fel canolbwynt cyfandirol ar gyfer traffig awyr a rheilffordd ac mae ganddi rwydwaith cludiant cyhoeddus cymhleth ac effeithiol iawn. Mae'r metropolis yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ceir diwydiannau arwyddocaol hefyd gan gynnwys TG, fferyllol, peirianneg fiofeddygol, technoleg lân, biotechnoleg, adeiladu ac electroneg.
Ar ôl bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Michael Müller yw'r Regierender Bürgermeister ("maer llywodraethol") ar hyn o bryd. (Gweler Meiri Berlin).
Hyd 1 Ionawr 2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12.
Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy dref ar y bryd: Berlin a Cölln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld.
Roedd llys brenhinoedd Prwsia yn Berlin, ond dechreuodd y dref dyfu'n gyflym yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl dod yn brif ddinas yr Ymerodraeth Almaenig ym 1871. Roedd hi'n brif ddinas yn ystod Gweriniaeth Weimar a rheolaeth y Natsiaid a chafodd ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl y Rhyfel, rhannwyd y ddinas yn ddwy. Roedd y rhan ddwyreiniol yn brif ddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Dwyrain yr Almaen), ond Bonn oedd prif ddinas Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen).
Roedd Gorllewin Berlin yn rhan o Orllewin yr Almaen, ac felly yn glofan yn nhiriogaeth Dwyrain yr Almaen. O ganlyniad, roedd hi'n bwysig yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 26 Mehefin 1948 dechreuodd blocâd Berlin ac ar ôl hynny awyrgludiad Berlin. Ar 13 Awst 1961 dechreuwyd ar y gwaith o godi Mur Berlin.
Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld.
Tardd yr enw 'Berlin' yn iaith trigolion Slafiaid Gorllewinol a drigant yn yr ardal ym, a gall yr enw fod yn gysylltiedig â choesyn yr hen iaith, Polabieg, berl- / birl- (sef "cors"). Gan fod y Ber- ar y dechrau yn swnio fel y gair Almaeneg Bär (arth), mae arth yn ymddangos yn arfbais y ddinas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Berlin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.