Dinas yn ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Rheinland-Pfalz yw Mainz (Ffrangeg: Mayence).
Saif ar afon Rhein, gyferbyn a'r fan lle mae afon Main yn ymuno â hi. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 200,234.
Math | dinas fawr, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Rhineland-Palatinate, prifddinas talaith yr Almaen |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Main, Mogons |
Poblogaeth | 220,552 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Nino Haase |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q22117180 |
Sir | Rheinland-Pfalz |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 97.73 km² |
Uwch y môr | 89 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Rhein, Afon Main |
Yn ffinio gyda | Mainz-Bingen, Wiesbaden, Groß-Gerau |
Cyfesurynnau | 49.9994°N 8.2736°E |
Cod post | 55116–55131 |
Pennaeth y Llywodraeth | Nino Haase |
Sefydlwyd caer Rufeinig Moguntiacum yma gan y cadfridog Drusus tua 13 CC. Datblygodd yn dref a chanolfan filwrol bwysig ac yn brifddinas talaith Germania Superior.
Cipiwyd y ddinas gan yr Alamanni yn 368 a chan y Fandaliaid ac eraill yng ngaeaf 406, pan rewodd afon Rhein a'u galluogi i groesi. Daeth Sant Boniface yn Archesgob cyntaf Mainz tua chanol yr 8g. Yn y Canol Oesoedd roedd Archesgobion Mainz yn bwerus iawn, ac yn cael eu hystyried yn ddirprwyon y Pab i'r gogledd o'r Alpau. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, meddiannwyd Mainz gan fyddin Ffrainc rhwng 1919 a 1930.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mainz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.