Ieithegwr Almaenig oedd Franz Bopp (14 Medi 1791 - 23 Hydref 1867), a ystyrir yn un o sefydlwyr ieitheg gymharol.
Franz Bopp | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1791 Mainz |
Bu farw | 23 Hydref 1867 Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Galwedigaeth | ieithydd, addysgwr, academydd, historical linguist |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Volney Prize, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Ganed Bopp ym Mainz yn 1791. Astudiodd ym Mharis am bedair blynedd dan nawdd llywodraeth Bafaria. Yn 1816 cyhoeddodd ei astudiaeth gyntaf o ramadeg yr Indo-Ewropeg, yr Über das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache, sy'n cymharu gramadeg y ferf yn y Sansgrit gyda berfau'r ieithoedd Groeg, Lladin, Perseg ac Almaeneg ac yn dangos fod ganddynt gwreiddiau cyffredin.
Yn 1821 fe'i apwyntwyd i'r gadair yn y Sansgrit a gramadeg cymharol ym mhrifysgol Berlin. Dyma'r cyfnod a welodd gyhoeddi ei ramadeg cymharol o'r ieithoedd Sansgrit, Zend, Groeg, Lladin, Lithwaneg, Hen Slafoneg, Gotheg ac Almaeneg.
Yn 1839 cyhoeddodd ei astudiaeth Über die keltischen Sprachen sy'n profi bod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Er nad ef oedd y cyntaf i awgrymu hynny, mae'r llyfr yn garreg filltir yn natblygiad Astudiaethau Celtaidd.
Bu farw ym Merlin yn 1867.
Prif waith:
Traethodau ac astudiaethau eraill:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Franz Bopp, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.