Ymerodraeth hynafol yr Iraniaid oedd yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a elwir hefyd Ymerodraeth Gyntaf Persia, a sefydlwyd gan Cyrus Fawr o frenhinllin yr Achaemeniaid yn 550 CC.
Cafodd ei chanoli yng Ngorllewin Asia, ac ehangodd i'r Balcanau a'r Aifft yn y gorllewin ac i Ganolbarth Asia a Dyffryn Indus yn y dwyrain, ac ar y pryd dyma oedd yr ymerodraeth fwyaf yn hanes y byd gyda chyfanswm ei thiriogaeth yn 5.5 million square kilometre (2.1 million milltir sgwar).
Tiriogaeth yr Ymerodraeth Achaemenaidd ar ei hanterth, dan y Brenin Darius Fawr (522–486 CC). | |
Math | gwlad ar un adeg, cyfnod o hanes |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Prifddinas | Babilon, Pasargadae, Persepolis, Susa, Ecbatana |
Poblogaeth | 17,000,000, 35,000,000 |
Sefydlwyd |
|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hen Perseg, Babiloneg, Hen Roeg, Median, Elameg, Swmereg, Aramaeg, lingua franca, Perseg, Acadeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Achaemenid Period, Medo-persia |
Gwlad | Medo-persia |
Arwynebedd | 5,500,000 km² |
Yn ffinio gyda | Sgythia |
Cyfesurynnau | 33°N 44°E |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | King of Kings |
Crefydd/Enwad | Zoroastriaeth, Babylonian religion, crefydd yr Hen Aifft |
Arian | Persian daric, siglos |
Oddeutu'r 7g CC, anheddwyd ardal Persis, yn ne-orllewin Llwyfandir Iran, gan y Persiaid. Yno daeth Cyrus i rym a gorchfygai Ymerodraeth Medes, yn ogystal â Lydia a'r Ymerodraeth Neo-Fabilonaidd, gan sefydlu gwladwriaeth imperialaidd newydd dan reolaeth y brenhinoedd Achaemenaidd.
Cydnabyddir yr Ymerodraeth Achaemenaidd gan ysgolheigion modern am ei weinyddiaeth fiwrocrataidd ganoledig; ei pholisi amlddiwylliannol; ei hisadeiledd ac adeiladweithiau cymhleth, gan gynnwys ffyrdd a system bost; ei defnydd o ieithoedd swyddogol ar draws ei thiriogaethau; a datblygiad proffesiynol ei gwasanaethau sifil a'i lluoedd arfog. Byddai llwyddiannau'r Achaemeniaid yn ysbrydoli dulliau tebyg o lywodraethu gan ymerodraethau diweddarach.
Erbyn 330 CC, cafodd yr Ymerodraeth Achaemenaidd ei choncro gan Alecsander Fawr, a edmygai Cyrus yn frwd, un o brif fuddugoliaethau ei ymgyrch i ehangu Ymerodraeth Macedonia. Nodai marwolaeth Alecsander ddechrau'r oes Helenistaidd, pan ddaeth y rhan fwyaf o diriogaeth yr hen Ymerodraeth Achaemenaidd dan reolaeth y Deyrnas Ptolemaidd a'r Ymerodraeth Selewcaidd, y ddwy a ymddangosodd yn olynwyr i Ymerodraeth Macedonia yn sgil Rhaniad Triparadisus yn 321nbsp;CC. Teyrnasai'r Helenistiaid ar Bersia am gan mlynedd bron cyn i uchelwyr Iranaidd o ganolbarth y llwyfandir adennill grym a sefydlu Ymerodraeth Parthia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Ymerodraeth Achaemenaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.