Ffurf hynafol ar yr iaith Roeg yw Hen Roeg a siaredid yng Ngroeg yr henfyd o'r 9g CC i'r 6g OC.
Rhennir yn fras yn gyfnodau Hynafol (9g i'r 6g CC), Clasurol (5g a'r 4g CC), ac Helenistaidd (3g CC i'r 6g OC). Rhagflaenir gan Roeg Fyseneaidd yn yr ail fileniwm CC.
Gelwir iaith yr oes Helenistaidd yn Roeg Coine ("cyffredin"), sef iaith y Testament Newydd. Ar ei ffurf gynharaf, mae Coine yn debyg iawn i Roeg Atica, ac ar ei ffurf ddiweddaraf yn dynesu at Roeg yr Oesoedd Canol. Cyn y cyfnod Coine, rhennir yr iaith glasurol yn sawl tafodiaith.
Yr Hen Roeg oedd iaith Homeros ac hanesyddion, dramodwyr, ac athronwyr Athenaidd y 5g CC. Benthycir nifer o eiriau mewn ieithoedd Ewropeaidd o'r Hen Roeg, ac astudiasai'r iaith, yn aml ynghyd â Lladin, mewn ysgolion a phrifysgolion Ewrop ers y Dadeni Dysg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hen Roeg (iaith), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.