Ideoleg gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd Fladimir Pwtin yw Pwtiniaeth (Rwsieg: путинизм).
Yn yr 21g, mae Pwtiniaeth wedi dod yn gyffredin ledled Ffederasiwn Rwsia a gellid gweld ei effaith a dylanwad y tu hwnt i ffiniau'r wladwriaeth honno. Ym mis Mawrth 2022, roedd y nifer uchaf erioed o 83% o Rwsiaid yn cefnogi Fladimir Pwtin.
Enghraifft o'r canlynol | slogan gwleidyddol, math o senedd, form of state |
---|---|
Math | guided democracy, system wleidyddol, ideoleg wleidyddol, illiberal democracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn gyffredinol, mae Pwtiniaeth yn dynodi'r system wleidyddol o dan y Prif Weinidog a'r Arlywydd Vladimir Pwtin lle mae llawer o bwerau gwleidyddol ac ariannol yn cael eu rheoli gan siloviki. Mae'r siloviki hyn yn wleidyddion Rwsiaidd o'r hen wasanaethau diogelwch, cudd-wybodaeth neu filwrol, yn aml y KGB a swyddogion milwrol. Yn aml mae'r siloviki hyn yn ffrindiau â Pwtin neu wedi gweithio gydag ef yn ystod amser y KGB neu Weinyddiaeth Materion Mewnol Rwsia (MVD).
Er y gellir disgrifio arddull wleidyddol Pwtin ar y naill law fel ymgais i ryddfrydoli'r economi, mae Pwtin yn aml yn cael ei gyhuddo o dueddiadau awdurdodaidd sy'n gorfodi gwrthwynebwyr gwleidyddol i ymddiswyddo, megis y dedfrydau carchar i Mikhail Khodorkovsky ac Alexei Navalny.
Ceir nifer o ddywediadau neu sylwadau bachog nodweddiadol o Pwtin a Phwtiniaeth. Llefarwyd llawer o'r datganiadau hyn yn wreiddiol gan Pwtin yn ei sesiynau cwestiwn-ac-ateb blynyddol. Yn ystod y sesiynau Holi ac Ateb bondigrybwyll hyn, bydd Pwtin yn ateb cwestiynau difrifol a llai difrifol gan drigolion Rwsia o bob rhan o'r wlad. Rhai dyfyniadau enwog eraill gan Pwtin yw::
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pwtiniaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.