Rhanbarth yn ne-ddwyrain Ewrop sy'n cynnwys tiriogaeth gwledydd presennol Gwlad Groeg, Albania, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Bwlgaria, Rwmania a rhan Ewropeiadd Twrci yw'r Balcanau.
Mae ganddo arwynebedd tir o 550,000 km² ac mae tua 55 miliwn o bobl yn byw yno. Yr enw am orynys y Balcanau yn Hen Roeg oedd Gorynys Haemus (Χερσόνησος του Αίμου). Enwir y rhanbarth ar ôl Mynyddoedd y Balcanau, sy'n rhedeg trwy ganol Bwlgaria i mewn i ddwyrain Serbia.
Daeth y rhan fwyaf o'r Balcanau yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd o'r 5g ymlaen. Daeth y Balcanau dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid o'r 15g hyd y 19g a dechrau'r 20g. Enillodd Gwlad Groeg ei hannibyniaeth yn 1829 ac fe'i dilynwyd gan Serbia (1878), Rwmania (1878), Bwlgaria (1908) ac Albania (1912). Roedd y cystadlu rhwng y pwerau mawr Ewropeaidd am reolaeth ar yr ardal yn un o'r ffactorau pennaf a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918). Daeth Iwgoslafia'n wlad ffederal sosialaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac roedd gweddill y gwledydd Balcanaidd (ac eithrio Gwlad Groeg a Thwrci) yn wladwriaethau comiwnyddol hyd cwymp y Llen Haearn a Rhyfeloedd y Balcanau.
Mae hunaniaeth y Balcanau yn cael ei ffurfio gan ei lleoliad daearyddol; saif ar groesffordd hanesyddol sydd wedi bod yn dyst i sawl pobl a diwylliannau. Mae wedi bod yn fan cyfarfod i rhannau Lladin a Groeg yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn ffin rhyngddynt, yn gyrchfan i fewnlifiad anferth o bobloedd Slaf paganaidd, yn fan cyfarfod Cristnogaeth Orllewinol ac Uniongred, yn ogystal â bod yn fan cyfarfod i Islam a Christnogaeth. Gwelai yn ogystal nifer fawr o ffoaduriaid Iddewig yn ffoi'r Chwil-lys. Mae nifer uchel o Romani yn byw yno hefyd.
Mewn canlyniad i hyn oll mae'r Balcanau heddiw yn rhanbarth o amrywiaeth ethno-ieithyddol sylweddol, ac yn gartref i sawl iaith Slafig, Romáwns, a Twrcaidd, yn ogystal â'r iaith Roeg, Albaneg, ac ieithoedd eraill. Yn y cyfnodau cynhanesyddol ac egin-hanesyddol mae nifer o grwpiau ethnig eraill â'i hieithoedd unigryw eu hunain, wedi byw yn y rhanbarth yn ogystal, yn cynnwys y Celtiaid (e.e. y Galatiaid), yr Ilyriaid, yr Avariaid, y Vlachiaid, y Germaniaid a sawl llwyth Germanaidd arall.
Ceir pobl o genedligrwydd amrywiol yn y Balcanu, yn cynnwys (m = miliwn):
Prif grefyddau'r rhanbarth yw Cristnogaeth (Uniongred Dwyreiniol a Chatholig) ac Islam. Ymarferir sawl traddodiad o'r ddwy ffydd, ac mae gan pob un o'r gwledydd Uniongred ei heglwys genedlaethol eu hunain.
Cristnogaeth Uniongred Ddwyreiniol yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:
Catholigiaeth Rufeinig yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:
Islam yw prif grefydd y gwledydd canlynol:
Yn y gwledydd canlynol ceir nifer sylweddol o bobl (dros 10% o'r boblogaeth) sy'n perthyn i grefyddau lleiafrifol:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Balcanau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.