Pedwerydd brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius I, Perseg: داریوش , Hen Roeg: Δαρεῖος, Dareios (c.
549 CC - 486 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y brenin a arweiniodd ymgyrch gyntaf y Persiaid yn erbyn y Groegiaid.
Darius I, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | 550 CC |
Bu farw | 486 CC |
Dinasyddiaeth | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Galwedigaeth | gwladweinydd, arweinydd milwrol, teyrn |
Swydd | King of Kings, Pharo |
Tad | Hystaspes |
Priod | Atossa, Artystone, Parmys, Phaedymia |
Plant | Xerxes I, brenin Persia, Abrocomes, Arsames, Gobryas, Artobazanes, Ariabignes, Artazostre, Masistes, Achaemenes, Hyperanthes |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Roedd Darius, oedd yn fab i Hystaspes, yn wreiddiol yn swyddog ym myddin Cambyses II, a bu'n ymgyrchu gydag ef yn yr Aifft. Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain.
Daeth Darius yn arweinydd byddin Cambyses, a llwyddodd i orchfygu Smerdis a'i ladd, a chymeryd yr orsedd. Adeiladodd brifddinas newydd Persepolis. Bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod ei deyrnasiad; gwrthryfelodd Babilon fwy nag unwaith. Ymestynnodd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach; arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn Afon Indus a meddiannodd Thrace yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn Groeg pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym Mrwydr Marathon yn 490 CC. Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes I.
Rhagflaenydd: Smerdis | Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 522 CC – 486 CC | Olynydd: Xerxes I |
Rhagflaenydd: Smerdis | Brenin yr Aifft 522 CC – 486 CC | Olynydd: Xerxes I |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Darius I, brenin Persia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.