Sianel fideo ar lein a grëwyd gan Dan Savage ym Medi 2010 ydy It Gets Better.
Sefydlwyd y sianel mewn ymateb i hunanladdiad Billy Lucas a nifer o laslanciau a glaslancesau eraill a gafodd eu bwlio am eu bod yn hoyw neu am fod eu cyfoedion yn amau eu bod yn hoyw. Ei nod yw atal pobl ifanc LHDT rhag cymryd eu bywydau eu hunain trwy gael oedolion hoyw yn cyfleu'r neges iddynt y bydd bywydau'r bobl ifanc hyn yn gwella. Mae'r ymgyrch wedi cynyddu o ran nerth, gyda thros 200 o fideos yn cael eu huwchlwytho yn ystod yr wythnos gyntaf. Creodd nifer o enwogion eu fideos eu hunain hefyd. Erbyn yr ail wythnos, roedd 650 o fideos wedi eu huwchlwytho i'r sianel. Am mai dyna yw'r nifer uchaf o fideos y gellir eu huwchlwytho ar sianel YouTube, sefydlodd yr ymgyrch ei gwefan ei hunan, sef It Gets Better Project. Cyhoeddwyd hefyd fod casgliad o draethodau'n mynd i gael eu cyhoeddi hefyd ym Mawrth 2011.
Enghraifft o'r canlynol | web series, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 16 Medi 2004 |
Genre | cyfres deledu am LGBTI+ ayb |
Prif bwnc | LHDT |
Rhanbarth | Los Angeles |
Gwefan | http://www.itgetsbetter.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ôl iddo sefydlu'r prosiect, dywedodd Savage, "I wish I could have talked to this kid for five minutes. I wish I could have told Billy that it gets better. I wish I could have told him that, however bad things were, however isolated and alone he was, it gets better."
Nid yw'r prosiect yn derbyn cyfraniadau ariannol, ond yn hytrach cyfeirir cyfranwyr at The Trevor Project, sy'n darparu llinell gymorth i atal hunanladdiad.
“ | Barack Obama (Arlywydd yr UDA): We've got to dispel this myth that bullying is just a normal rite of passage; that it's just some inevitable part of growing up. It's not. We have an obligation to ensure that our schools are safe for all of our kids. And for every young person out there you need to know that if you're in trouble, there are caring adults who can help. | ” |
|
|
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article It Gets Better Project, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.