Mae Anne Jacqueline Hathaway (ganed 12 Tachwedd 1982) yn actores Americanaidd.
Cafodd ei swydd actio gyntaf ym 1999 yn y gyfres deledu Get Real, ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yng nghomedi deuluol Disney, The Princess Diaries lle gweithiodd gyda Julie Andrews.
Anne Hathaway | |
---|---|
Ganwyd | Anne Jacqueline Hathaway 12 Tachwedd 1982 Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, actor teledu, actor llwyfan, actor llais |
Adnabyddus am | The Princess Diaries, The Devil Wears Prada, The Dark Knight Rises, Rio (ffilm 2011), Rio 2 |
Math o lais | soprano |
Taldra | 173 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Gerald T. Hathaway |
Mam | Kate McCauley Hathaway |
Priod | Adam Shulman |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hasty Pudding Woman of the Year |
llofnod | |
Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y tair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn Ella Enchanted a The Princess Diaries 2: Royal Engagement yn 2004. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel Havoc a Brokeback Mountain. Actiodd hefyd yn The Devil Wears Prada, gyda Meryl Streep; Becoming Jane, lle portreadodd Jane Austen, a Get Smart gyda Steve Carell. Yn 2008 derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rôl yn y ffilm Rachel Getting Married. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rôl, gan gynnwys enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actores Orau.
Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull Judy Garland ac Audrey Hepburn ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn People Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn 2006, cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anne Hathaway (actores), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.