Prifysgol breifat yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Efrog Newydd (Saesneg: New York University) sydd yn cynnwys 13 o golegau ac isadrannau a leolir mewn pum canolfan ar draws bwrdeistref Manhattan.
Mae ganddi ryw 50,000 o fyfyrwyr.
Arwyddair | Perstare et praestare |
---|---|
Math | prifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manhattan |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 40.73°N 73.995°W |
Cod post | 10012-1091 |
Sefydlwydwyd gan | Albert Gallatin |
Sefydlwyd ym 1831 dan yr enw Prifysgol Dinas Efrog Newydd (University of the City of New York). Sefydlwyd ysgol y gyfraith ym 1835, yr ysgol feddygol ym 1841, a'r ysgol ôl-raddedig ar gyfer addysgeg ym 1890. Newidiodd ei enw i Brifysgol Efrog Newydd ym 1894.
Mae campws Prifysgol Efrog Newydd yn cynnwys rhyw 170 o adeiladau ar draws Manhattan, a'i graidd o amgylch Parc Sgwâr Washington yn ardal Greenwich Village. Adrannau'r brifysgol yw: Coleg y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Astudiaethau Breiniol; Ysgol Ôl-raddedig y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Ysgol Gallatin ar gyfer Astudiaethau Unigoledig; Ysgol Ddiwylliant, Addysg a Datblygiad Dynol Steinhardt; Ysgol Fusnes Stern; Ysgol Beirianneg Tandon; Ysgol Gelfyddydau Tisch; yr Ysgol Iechyd Cyhoeddus Byd-eang; y Coleg Deintyddiaeth; Athrofa Wyddorau Mathemategol Courant; Ysgol Feddygol Grossman; Athrofa'r Celfyddydau Cain; yr Athrofa dros Astudio'r Henfyd; Ysgol Wasanaeth Cyhoeddus Wagner; Ysgol Nyrsio Rory Meyers; yr Ysgol Astudiaethau Proffesiynol; Ysgol y Gyfraith; ac Ysgol Waith Cymdeithasol Silver.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prifysgol Efrog Newydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.