Y weithred o gael cyfathrach rywiol neu wasanaethau rhywiol eraill am arian yw puteindra.
Fe'i gelwir yn aml "yr alwedigaeth hynaf yn y byd" am fod gan yr arfer hanes hir iawn. Mae'r sefyllfa gyfreithiol yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac mae wedi newid hefyd o gyfnod i gyfnod; mewn rhai gwledydd mae'n gyfreithlon ond mewn ambell wlad mae'n drosedd ddifrifol. Cysylltir puteindra â merched sy'n cynnig eu gwasanaethau i ddynion yn bennaf, ond ceir puteiniaid gwrywaidd hefyd, naill ai'n hoyw neu fel cwmni i ferched. Gelwir y rhain yn "jigolos".
Ceir sawl enw Cymraeg i ddisgrifio rhywun sy'n puteinio ei hunan. Y mwyaf cyffredin yw putain, hwr a hwran.
O ran lleoliad, ceir puteiniaid sy'n gweithio ar y stryd (puteindra stryd), mewn adeiladau neilltuol (puteindai), neu drwy asiantaethau hebrwng/escort). Mae lleoliadau eraill yn cynnwys tafarnau, clybiau nos a sawnau.
Mae testunau Cyfraith Hywel yn cydnabod bodolaeth puteindra yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ceir cymalau yn y llyfrau cyfraith am statws y butain, gan ddefnyddio'r gair hwnnw; o blith merched a gwragedd, dim ond y butain sydd heb yr hawl i iawndal os caiff ei threisio. Ceir cyfeiriadau hefyd at "ferched perth a llwyn" (cymharer y dywediad "plentyn perth a llwyn" am "blentyn siawns"), ond mae'n aneglur os oedd y merched hynny yn cael eu hystyried yn buteiniaid fel y cyfryw gan fod cariadon yn cwrdd yn y goedwig hefyd - sy'n olygfa ystrydebol yng nghanu serch y cyfnod - er bod awgrym fod rhai ohonynt yn buteiniaid. Mae gan y bardd Prydydd Breuan (fl. canol y 14g) gerdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o Aberteifi. Mae'n gerdd syfrdanol o fras a masweddus sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" (sef 'saith can cnychiad') neu ragor.
Yn fwy diweddar, roedd ardal Bae Caerdydd (a dinas Caerdydd yn gyffredinol) yn adnabyddus am ei phuteiniaid. Yn y ddeunawfed ganrif, yn ôl Iolo Morganwg, roedd "puteiniaid Caerdydd" yn ddywediad cyffredin ym Mro Morgannwg.
Mewn adroddiad gan BBC Cymru yn 2000, honnir fod tua 30 o buteiniaid ifainc, rhai ohonynt dan oed, yn gweithio ar y stryd mewn un ardal yng nghanol Caerdydd. Yn 2007, cafodd tri pherson eu deddfrydu i garchar am redeg puteindai mewn tai preifat yn Rhuddlan, Penmaenmawr a Bae Colwyn yng ngogledd Cymru. Merched o dde-ddwyrain Asia, yn cynnwys Tsieina, oedd yn gweithio yno, ac roedd y busnes yn cael ei rhedeg gan Gymro, Sais a merch o dras Tsieineaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Puteindra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.