Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Colwyn (Saesneg: Colwyn Bay).
Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Math | tref, cymuned, cyrchfan lan môr |
---|---|
Poblogaeth | 10,981 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 779.57 ha |
Cyfesurynnau | 53.29°N 3.7°W |
Cod SYG | W04000113 |
Cod OS | SH865785 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn Ebrill 1974 roedd Bae Colwyn yn fwrdeistref ddinesig yn yr hen Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o tua 25,000, ond yn 1974 ddiddymwyd yr hen awdurdod i adael pum cymuned (seiledig ar y plwyfi). Mae gan Bae Colwyn yn ôl y diffiniad hwnnw boblogaeth o 9,742 (2001). Poblogaeth y cymunedau eraill a fu'n rhan o'r hen fwrdeistref yw Mochdre (1,862), Llandrillo-yn-Rhos (7,110), Hen Golwyn (7,626) a Llysfaen (2,652). Erbyn heddiw mae'r pum plwyf yn un ardal drefol mewn gwirionedd, gyda phoblogaeth o 30,265 o bobl (2001), yr uchaf yng ngogledd Cymru ac eithrio Wrecsam.
Cnewyllyn y dref oedd Hen Golwyn ('Colwyn' yn wreiddiol) a Llysfaen i'r dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i'r gorllewin; tyfodd y dref rhwng y ddau le hynny (sy'n rhan o Fae Colwyn o safbwynt llywodraeth leol). Fel yn achos Llandudno a'r Rhyl, tyfodd Bae Colwyn yn gyflym yn ail hanner y 19g, yn sgîl dyfodiad y rheilffordd yn 1848, a dechrau'r 20g fel tref gwyliau glan môr hawdd i'w chyrraedd o drefi poblog gogledd-orllewin Lloegr.
Roedd y dref yn sir Clwyd hyd 1996, a bu'n rhan o'r Sir Ddinbych hanesyddol hyd 1974.
Mae'r dref wedi dioddef problemau cymdeithasol ers y 1980au gyda nifer o bobl ddiwaith o ogledd Lloegr symud i mewn a'r canran hŷn o'r boblogaeth gynyddu ar yr un pryd wrth i bobl symud yno ar ôl ymddeol.
Lleolir Theatr Colwyn yn y dref. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu.
Ar gyrion y Bae ceir Parc Eirias, gyda Phwll Nofio a meysydd chwarae.
Gwasanaethir ardal Bae Colwyn gan ddwy ysgol uwchradd, sef:
Mae nifer o ddisgyblion yr ysgolion hyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo Cymru, yn Llandrillo-yn-Rhos.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn ym 1910, 1941 (Hen Golwyn) a 1947. Am wybodaeth bellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bae Colwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.