Llanefydd: Pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanefydd neu Llannefydd.

Roedd yn rhan o Sir Ddinbych cynt. Mae'n bentref bychan a leolir tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Lanelwy.

Llanefydd
Llanefydd: Enwogion y fro, Henebion, Cyfrifiad 2011
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth590 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,074.11 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.223°N 3.527°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000128 Edit this on Wikidata
Cod OSSH981706 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Llanefydd: Enwogion y fro, Henebion, Cyfrifiad 2011
Canol pentref Llanefydd

Ceir dau sant ac un santes o'r enw Nefydd, i gyd yn perthyn i linach Brychan Brycheiniog, ond nid oes sicrwydd pa un ohonynt yw nawddsant y plwyf. Ceir Ffynnon Nefydd 300m o'r eglwys.

Tua milltir i gyfeiriad y gogledd-orllewin ceir Mynydd y Gaer a goronir gan fryngaer.

Enwogion y fro

Ceir tystiolaeth ddibynadwy fod Ithel Goch, tad y bardd enwog Iolo Goch, wedi ymsefydlu ar dir yn Llechwedd a Berain, yn y plwyf, ar ôl gorfod symud o Lewenni, ger Dinbych, mewn canlyniad i bolisi'r awdurdodau Seisnig o orfodi'r Cymry i symud o gyffiniau'r dref honno er mwyn sefydlu Saeson yn eu lle. Mae'n eithaf tebyg y bu gan Iolo Goch ei hun dŷ yn Llechwedd.

Mae'r plwyf yn cynnwys Cefn Berain, lle ganed Catrin o Ferain, "Mam Cymru", chwedl ei chyfoeswyr, ac yma yn yr eglwys leol y claddwyd hi; mae'r bedd, bellach, ar goll.

Ganwyd yr anterliwtwr enwog Twm o'r Nant ym Mhenparchell Uchaf yn y plwyf yn 1739.

Henebion

Mae Crug Moel Fodiar, fel mae'r enw'n ei awgrymu ar Foel Fodiar, rhwng Cefn Berain a Llansannan; dwy km i'r de o Lannefydd. Crug crwn ydy o wedi'i godi gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanefydd (pob oed) (590)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanefydd) (348)
  
60.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanefydd) (441)
  
74.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanefydd) (48)
  
22.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Tags:

Llanefydd Enwogion y froLlanefydd HenebionLlanefydd Cyfrifiad 2011Llanefydd CyfeiriadauLlanefyddConwy (sir)CymruCymuned (Cymru)DinbychLlanelwySir Ddinbych

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Llan-non, CeredigionSurreyHalogenOutlaw KingHunan leddfuYr Henfyd27 TachweddLloegrRecordiau CambrianRhyddfrydiaeth economaiddEtholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng NghymruDeddf yr Iaith Gymraeg 1993Harold LloydPont VizcayaNaked SoulsOrganau rhywYandexNia ParryHenry LloydAli Cengiz GêmByfield, Swydd NorthamptonTsietsniaidAnnie Jane Hughes GriffithsSlumdog MillionaireHoratio NelsonHirundinidaeSiriIechyd meddwlEternal Sunshine of the Spotless MindTsunami1945Rhyfel y CrimeaCynnyrch mewnwladol crynswthCynanWici CofiHannibal The ConquerorSwydd AmwythigChatGPT13 AwstPwtiniaethSiot dwad wynebDurlifMao ZedongErrenteriaNapoleon I, ymerawdwr FfraincAmserNational Library of the Czech RepublicCarles PuigdemontContactCefnforMarcel ProustWdigThe Silence of the Lambs (ffilm)Waxhaw, Gogledd CarolinaAlbert Evans-JonesTsiecoslofaciaJess DaviesBibliothèque nationale de FranceCodiadWho's The BossEconomi AbertawePortreadEliffant (band)Mervyn King🡆 More