Sant (o'r Lladin santus < sanctus cysegredig, dwyfol) yw person a nodweddir gan sancteiddrwydd arbennig.
Ceir seintiau yn y rhan fwyaf o grefyddau'r byd, ond yn wreiddiol cyfyngid y gair i gyd-destun Cristnogaeth.
Yn yr Eglwys Fore defnyddid y gair 'sant' i bob credadyn yn gyffredinol, ac mae rhai enwadau Cristnogol diweddar yn dal i ddefnyddio'r enw felly, e.e. y Mormoniaid. Gelwir cyfnod bore yr eglwys, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd, yn Oes y Seintiau (gweler Oes y Seintiau yng Nghymru, er enghraifft). Yn yr Eglwys Gatholig ceir proses o ganoneiddio cyn i berson gael ei ychwanegu at y galendr o seintiau swyddogol, cydnabyddiedig. Ceir nifer o gwltau defosiynol sy'n gysylltiedig â'r seintiau. Mae'r eglwysi Protestannaidd yn gyffredinol yn gwrthod addoli seintiau.
Yn Islam ceir nifer o enghreifftiau o bobl duwiol a ystyrir yn "seintiau", er nad yw'r enw'n cael ei arfer. Mae hyn yn arbennig o wir yn y Maghreb lle ceir traddodiad cryf o seintiau, lleol yn aml, a elwir yn marabouts. Defnyddir y gair sidi hefyd, sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd, e.e. Sidi Bou Saïd yn Tiwnisia. Mae Mwslemiaid uniongred yn tueddu i ddilorni'r traddodiadau hyn a'r aferion cysylltiedig â'r marabouts a'u cysgegrfannau.
Ceir nifer o seintiau mewn Bwdhaeth, yn arbennig ym Mwdhaeth Mahayana.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.