Mae gan tair gwlad y Maghreb lawer mewn cyffredin o ran iaith (mae cryn gwahaniaeth rhwng Arabeg lafar y Maghreb ac iaith lafar yr Aifft a'r Dwyrain Canol), diwylliant a hanes.
Mae'r Maghrebiaid yn Fwslemiaid Sunni ac ychydig iawn o Fwslemiaid Shia a geir yn eu plith. Ffactor arall sy'n eu nodweddu yw'r etifeddiaeth Ferber, yn arbennig ym Moroco ac Algeria. Yn hanesyddol mae'r ardal yn sefyll ar groesffordd ddiwylliannol rhwng y Sahara a'r gwledydd traws-Saharaidd ar y naill law - a gysylltir â'r Maghreb trwy'r hen lwybrau masnach dros yr anialwch hwnnw - a'r Môr Canoldir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maghreb, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.